Sefydlwyd y Rhaglen Ymchwil ar gyfer Casgliadau Digidol (Ymchwil LlGC) yn 2011 er mwyn datblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer casgliadau digidol LlGC. Yn benodol y defnydd a wneir ohonynt, eu gwerth a'u heffaith. Mae’r pwyslais ar faes Dyniaethau Digidol ble caiff cynnwys, technegau ac offer digidol eu cyfuno er mwyn galluogi ymchwil ysgolheigaidd.
Mae’r Rhaglen yn canolbwyntio ar dri maes penodol:
Mae’r Rhaglen Ymchwil ar gyfer Casgliadau Digidol yn cynllunio prosiectau a fydd yn galluogi i gasgliadau digidol gael eu plannu ynghanol ymchwil, addysgu ac ymgysylltu cyhoeddus. Caiff y prosiectau hyn eu datblygu trwy gyd-weithrediad nifer o bartneriaid o ddisgyblaethau academaidd amrywiol, yn ogystal ag addysg a sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol ledled y byd.
Mae’r ymchwil hwn yn datblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio casgliadau digidol a grëir gan LlGC. Cyflawnir hyn trwy ddefnyddio technegau ac offer TG ar gyfer ymchwilio a chyfathrebu’r ymchwil. Caiff prosiectau digido eu cynllunio er mwyn boddhau amcanion strategol yn y maes hwn.
Dyma enghraifft o'r meysydd ymchwil sy’n disgyn o fewn gwmpas y Rhaglen: