Symud i'r prif gynnwys

Dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Llyfrgelloedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

04.02.2016

Ar ddydd Sadwrn 6 Chwefror, 2016 byddwn yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Llyfrgelloedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Eleni yw'r pumed Diwrnod Llyfrgelloedd Cenedlaethol - diwrnod o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n hyrwyddo pam fod llyfrgelloedd yn bwysig a'r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i bobl, teuluoedd a chymunedau ar draws y DU.

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Llyfrgelloedd bydd Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad yn y Drwm ble mae croeso cynnes i bawb:

Bydd ‘A constant succession of workers: the early readers of The National Library of Wales and their reading habits’ yn cael ei gyflwyno gan Calista Williams gyda Rosemary Thomas, Nan Williams a Daniel Morgan. Mae Calista yn fyfyriwr PhD sydd wedi ei lleoli yn y Llyfrgell, tra bod Rosemary, Nan a Daniel i gyd yn wirfoddolwyr yn y Llyfrgell sydd wedi bod yn helpu Calista gyda'i ymchwil.

Yn 1909 agorwyd y Llyfrgell Genedlaethol yn yr ‘Assembly Rooms’ yn y dref. Dros y  ddwy flynedd diwethaf mae gwirfoddolwyr wedi cofnodi data o gofrestr darllenwyr y Llyfrgell 1909-12. Bydd Calista a’r gwirfoddolwyr yn cyflwyno diwrnod ym mywyd y Llyfrgell yn 1911 gan dynnu ar ei phrosiect doethuriaeth, sy’n archwilio’r cyswllt rhwng y Llyfrgell a hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

Mae Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gymdeithas o bobl sy'n frwd dros gefnogi'r Llyfrgell mewn gair a gweithred. Mae'n meithrin diddordeb yn y Llyfrgell a'i gwaith; cynnal cronfa i alluogi'r Llyfrgell i bwrcasu eitemau arbennig; symbylu rhoddion a chymynroddion ac yn annog aelodau i fod yn llysgenhadon dros y Llyfrgell. Mae’r Cyfeillion bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd, ond mae croeso cynnes i unrhyw un i fynychu’r digwyddiad hwn.

Rydym hefyd yn awyddus iawn i agor ein drysau ac yn croesawu gwirfoddolwyr newydd i'r Llyfrgell. Ar hyn o bryd mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn gofyn am sgiliau arbenigol, dim ond brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu.

Hyd yn oed os nad ydych yn gallu dod draw ar y diwrnod, gwirfoddoli neu ymuno gyda Cyfeillion y Llyfrgell, gallwch barhau i ddangos eich cefnogaeth i'r Llyfrgell trwy rannu beth ydych yn ei garu am y Llyfrgell ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #librariesday

Gwybodaeth Bellach

Elin Hâf-01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Mynediad trwy docyn £ 3.50, rhad ac am ddim i Gyfeillion LLGC
www.llyfrgell.cymru/drwm