Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ydych chi'n methu ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn bersonol oherwydd cyfyngiadau amser, lleoliad, neu broblemau iechyd? Mae'r Ystafell Ddarllen Rithwir yn caniatáu ichi weld casgliadau'r Llyfrgell lle bynnag yr ydych chi yn y byd.
Sut mae'r Ystafell Ddarllen Rithwir yn gweithio?
Mae gennym gamera sefydlog ar y nenfwd a all rannu delweddau o’n casgliadau trwy gyfarfod Teams. Mae'n addas i weld y llyfr bach lleiaf i fapiau a phapurau newydd mawr.
Bydd angen cyfrifiadur arnoch gyda sgrîn addas a chysylltiad rhyngrwyd i gael mynediad i gyfarfod Teams.
Byddwn yn gofyn ichi greu cyfrif Llyfrgell ar-lein
Sut ydw i'n archebu?
I archebu sesiwn, ewch i dudalen ymholiadau'r Llyfrgell a llenwch y ffurflen ar-lein. Nodwch eich dyddiad ac amser dewisol, ynghyd â'ch enw a'ch manylion cyswllt a manylion y casgliad yr hoffech ei weld.
Faint o rybudd sydd ei angen?
Er mwyn i ni asesu a yw'r eitemau'n addas i'w gweld, gofynnwn ichi roi o leiaf wythnos o rybudd. Efallai na fydd eitemau'n addas i'w gweld oherwydd eu bod yn rhy fawr, yn rhy fregus, oherwydd cyfyngiadau diogelu data neu hawlfraint, neu mewn arddangosfa.
Amseroedd y sesiynau
Mae sesiynau ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00yb a 4.00yp trwy drefniant ymlaen llaw, sy'n addas i'r ddwy ochr. Ni fydd y sesiwn yn fwy nag awr, gellir archebu sesiwn pellach os bydd angen.
Oes modd cymryd lluniau?
Na, ni chaniateir tynnu sgrîn-luniau, ffotograffau na recordio’r sesiwn.