Symud i'r prif gynnwys

Ydych chi’n ymweld â’r Llyfrgell neu’r Ystafell Ddarllen am y tro cyntaf? Beth am fynychu un o’n sesiynau Croeso? Mae’r sesiwn 30 munud wedi’i chynllunio i’ch helpu ar eich taith ymchwil yn y Llyfrgell.

Beth mae’r sesiwn yn ei gynnwys?

  • Cyflwyniad i’r Ystafell Ddarllen a’i phrif adnoddau.
  • Trosolwg dan arweiniad o sut i ddod o hyd i adnoddau ar-lein ar wefan y Llyfrgell.
  • Cyfarwyddiadau ar sut i wneud cais am adnoddau i’w gweld yn yr Ystafell Ddarllen.

Cymorth ymchwil

Bwriedir y sesiwn i'ch cynghori ar sut i wneud eich ymchwil yn y Llyfrgell. Sylwch na all staff ymgymryd ag ymchwil ar eich rhan.

Amseroedd y sesiynau

Mae sesiynau ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30 a 10.00yb neu rhwng 2.30 a 3.00yp.

Rhybudd sydd ei angen

Trefnwch eich lle o leiaf ychydig ddyddiau ymlaen llaw os yn bosib er mwyn sicrhau lle.

Sut i archebu?

I archebu sesiwn, ewch i dudalen ymholiadau’r Llyfrgell gan lenwi’r ffurflen ar-lein gan nodi eich dyddiad a’ch amser dewisol, ynghyd â’ch enw a manylion cyswllt.