Mae Beiblau Mawr Harri’r VIII a Thomas Cromwell wedi dod yn ôl at ei gilydd am y tro cyntaf ers bron i 500 mlynedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberyswyth.
Daeth llawer yn gyfarwydd â bywyd Thomas Cromwell yn y blynyddoedd diwethaf drwy nofel a drama deledu enwog Wolf Hall, ond nawr gallwch gael blas o’r ddrama go iawn mewn arddangosfa unigryw.
Mae hwn yn gyfle prin iawn i weld y ddau Feibl, a oedd yn gopïau personol i Harri’r VIII a Thomas Cromwell, ochr-yn-ochr am y tro cyntaf ers iddyn nhw gael eu creu. Maent yn cael eu cyflwyno fel rhan o arddangosfa Trysorau yn Oriel Hengwrt Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Darllenwch y Datganiad llawn yma
Categori: Newyddion