Ar ôl blwyddyn o weithgaredd mae prosiect ‘Cymru Anabl’ yr Archif Sgrin a Sain wedi dod i ben.
Roedd Cymru Anabl yn brosiect gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, Cwmni Theatr Hijinx a TAPE: Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth Sgrîn Loteri Genedlaethol y British Film Institute.
Gyda’r model cymdeithasol o anabledd yn greiddiol iddo, bwriad teitl y prosiect oedd adlewyrchiad o statws Cymru fel cenedl sydd, ar hyn o bryd, yn anhygyrch i nifer fawr iawn o bobl. Fel archif genedlaethol, yng Nghymru, mae’r un peth yn wir amdanom ni.
Ers blwyddyn mae staff yr Archif Sgrin a Sain wedi bod yn ystyried eu gwaith a’r casgliadau o dan eu gofal yng ngoleuni profiadau pobl anabl a Byddar. Os hoffech ddarllen mwy am gefndir y prosiect, bu sawl blog blaenorol:
Trefnwyd y prosiect ei hun o amgylch tair cangen eang o weithgaredd, sef dysgu ac ymchwil; ymgysylltu; ac asesu ac arddangos.
Er bod dysgu ac ymchwil yn rhywbeth a ddigwyddodd trwy gydol y prosiect, hwn oedd y cam pwysig cyntaf hefyd. Cyflawnodd staff hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd ac ymwybyddiaeth o Fyddardod, a threulio peth amser ar ymchwil desg ar gyfer gwaith ehangach o’r sector treftadaeth am archifau a hygyrchedd, gan gynnwys gwaith ysgolheigaidd yn y maes.
Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd ar-lein er mwyn i staff y prosiect ddod i wybod a deall mwy am waith partneriaid y prosiect, gan gynnwys eu harferion gorau. Ochr yn ochr â hyn bu staff yn ymchwilio i’r casgliadau archifol, er mwyn deall pa eitemau oedd eisoes wedi’u digido ac a oedd yn portreadu anabledd neu a grëwyd gan bobl anabl.
Roedd y gwaith sefydlu hwn i gyd er mwyn paratoi staff ar gyfer y rhan fwyaf a phwysicaf o'r prosiect, gellid dadlau, sef ymgysylltu.
Rhan fwyaf o weithgarwch y prosiect oedd cynnal gweithdai cyhoeddus i ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl anabl a defnyddwyr archifau ar faterion hygyrchedd a chynrychiolaeth archifol.
Cynhaliwyd gweithdai yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth a Hen Golwyn, yn ogystal â gweithdy ar-lein wedi’i anelu’n bennaf at gyfranogwyr Byddar. Dysgodd staff lawer o’r gweithdai hyn – nid yn unig o ran sut i gynnal digwyddiadau’n gynhwysol, ond hefyd yn y sgyrsiau a’r adborth gan gyfranogwyr.

Roedd cangen olaf y gwaith prosiect yn edrych i'r dyfodol.
Mae capsiynau disgrifiadol a disgrifiadau sain wedi’u comisiynu ar gyfer tua dwsin o ffilmiau o’r archif, fel eu bod yn hygyrch i ystod ehangach o ddefnyddwyr ac aelodau’r gynulleidfa pan gânt eu sgrinio neu eu cyrchu gan ymchwilwyr.
Cafodd tair o'r ffilmiau hyn eu dangos mewn digwyddiad dathlu diweddar yn Aberystwyth. Yn ogystal â’r dangosiad hwnnw, mae staff yn gweithio gyda Chanolfan Ffilm Cymru ar becyn hyrwyddo ar gyfer y ffilmiau fel y gallai arddangoswyr sinema ledled Cymru ddewis ffilmiau archif hygyrch yn haws ar gyfer eu rhaglenni.
Yn olaf, mae adroddiad cyhoeddus ar y prosiect, o’r enw Archif, Agored, Amdani, wedi’i gyhoeddi, yn amlinellu’r gwersi allweddol a ddysgwyd o’r prosiect a meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwaith parhaus yn yr archif. Y gobaith wrth gyhoeddi'r ddogfen hon yw y gallai'r archif a'r sefydliad ehangach gael eu dal yn atebol yn y math hwn o waith. Mae hefyd yn caniatáu i ddysgu'r prosiect gael ei rannu â chymheiriaid yn y sector.
Mae llawer o ddiolch i’w gwneud ar ddiwedd prosiect o’r fath, yn bennaf wrth gwrs i’r BFI a’r Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth, ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am gefnogaeth hanfodol hefyd. Diolch hefyd i’n partneriaid prosiect DAC, Hijinx a TAPE, yn enwedig Alan, Dan a Steven; i Emily Rose Corby a Michael Marlatt am eu harbenigedd; ac i Matchbox am ddeunyddiau mynediad a chyngor technegol. Diolch i'n lleoliadau cynnal gweithdai ledled Cymru, ein dehonglwyr BSL ac i'r holl gyfranogwyr a gymerodd ran yn frwd. Diolch yn olaf i'n cyd-weithwyr LlGC am eu help a'u cefnogaeth hefyd.
Categori: Erthygl