Ym mis Medi 2023 dechreuodd yr Archif Sgrin a Sain ar brosiect blwyddyn wedi’i gefnogi gan y BFI a’r Loteri Genedlaethol, ‘Cymru Anabl’, ar y cyd gyda’r partneriaid Disability Arts Cymru, Cwmni Theatr Hijinx a TAPE: Community Music and Film.
Mae’r prosiect treftadaeth sgrin hwn yn archwilio’r gynrychiolaeth o wneuthurwyr ffilmiau anabl a Byddar yn yr archif, yn ogystal â hygyrchedd y deunydd. Bydd y prosiect yn gosod sylfaen ar gyfer gwaith hirdymor yn yr archif. Gallwch ddarllen blog am ddechreuad y prosiect yma.
Fi ac Iola Baines, Curadur Delweddau Symudol yr Archif Sgrin a Sain, sy’n arwain ar ac yn gweithio ar y prosiect yn bennaf. Yn ddiweddar, cynhaliom ni bedwar gweithdy hyd a lled Cymru er mwyn cynnal sgyrsiau am themâu'r prosiect gyda phobl anabl ac eraill sy’n gweithio mewn meysydd cysylltiedig â ffilm a fideo.
Trefnu'r gweithdai
Roedd angen i ni drefnu’r gweithdai yma mewn ffordd oedd yn ystyrlon o’r bobl roeddem ni’n awyddus i gyrraedd, ond hefyd yn ystyrlon o’n sgiliau ni.
Er bod y ddwy ohonom yn brofiadol wrth gyflwyno gwybodaeth ac wrth siarad yn gyhoeddus, roedd cynnal gweithdy rhyngweithiol yn gwbl newydd i ni, felly oedd rhaid i ni sicrhau ein bod ni wedi paratoi’n drylwyr.
Roedd paratoi’n sicrhau ein bod ni’n medru dilyn strwythur a chynllun manwl er mwyn cadw’r gweithdai i'r pwnc ac i amser. Yn bwysicach byth, roedd y paratoi dwys yma yn ein galluogi ni i gynnal y gweithdai mewn ffordd hygyrch a hyblyg, ac yn sicrhau ein bod ni’n barod ar gyfer a medru ymateb i anghenion penodol unrhyw gyfranogwyr.
Roedd hi’n hollbwysig ein bod ni’n ymdrechu i gynnal gweithdai ar draws Gymru, tra ar yr un pryd ystyried ein capasiti o ran amser. Trwy dipyn o drafod, penderfynon ni felly i gynnal pedwar gweithdy: yn Aberystwyth, Hen Golwyn, Caerfyrddin a Chaerdydd.
Roedd dau brif faes lle gwnaethom ni o bosib fethu ynddyn nhw wrth baratoi. Dylen ni fod wedi hyrwyddo’r sesiynau lot ynghynt ac yn fwy uniongyrchol, yn lle dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol a llafar gwlad. Roedd hi hefyd yn siom i ni mai dim ond ar gyfer dau o’r pedwar sesiwn y llwyddon ni i sicrhau dehongli BSL. O hyn dysgom unwaith eto’r pwysigrwydd o gynllunio ymhell o flaen llaw, ac yn wir i ystyried argaeledd dehonglwyr lleol o’r cychwyn cyntaf wrth gynllunio dyddiadau digwyddiadau.
Un peth sydd ar y gweill fydd yn ein helpu i raddau fynd i'r afael â'r ddau fethiant yma yw ein bod ni hefyd yn mynd i gynnal gweithdy ar-lein. Roeddem ni'n ymwybodol o’r dechrau byddai’n bwysig cynnig opsiwn cyfranogi i unrhyw un fyddai ddim, am ba bynnag reswm, wedi cyrraedd un o’r sesiynau corfforol.
Rwan, bydd y sesiwn ar-lein hefyd yn ffordd i ni gyrraedd y rheini oedd ddim yn ymwybodol o’n gweithdai blaenorol, ac yn well byth mae’n cynnig cyfle i ni gyd-weithio efo rhai o’r gymuned Fyddar er mwyn sicrhau bod y sesiwn yn hygyrch a hefyd yn ystyrlon o anghenion y gymuned honno.
Bydd y gweithdy ar-lein felly’n cael ei drefnu’n fuan iawn ac yn cael ei gynnal rywbryd dros y misoedd nesaf.
Cynnal y gweithdai
Yn gyffredinol, roeddwn i'n arwain ar y gweithdai, gyda Iola’n cyfrannu’n helaeth wrth rannu hanes yr archif a chyflwyno nifer o glipiau o’r casgliadau.
Ar ôl ychydig o gyflwyniad, yn rhan gyntaf y sesiwn trafodwyd ffilm archifol yn gyffredinol, gan ofyn i’r cyfranogwyr am eu canfyddiadau a’u profiadau nhw. Difyr oedd cael clywed yn uniongyrchol am sut oedd amryw gyfranogwyr yn meddwl am neu ddychmygu ffilm archifol, a’u syndod wrth ddysgu pa mor eang yw’r maes.
Yn ail ran y sesiwn, trafodwyd pwysigrwydd cynrychiolaeth amrywiol a hygyrchedd cynhwysol. Roedd y sgwrs yma’n aml yn mynd â ni tu hwnt i’r archif, ac yn cynnwys trafodaeth am bob math o ofodau cyhoeddus a chyfryngau gwahanol.
Y rhan olaf y sesiwn, roedd cyfle i ni ddychmygu sut beth a sut le fyddai archif ffilm y dyfodol, gan feddwl heb ffiniau na rhwystrau cyllido. Roedd yr ymarfer yma’n ffordd gynhyrchiol i gloi’r sesiwn mewn ffordd gadarnhaol, gobeithiol a chreadigol.
Mynychodd tua 30 o gyfranogwyr y gweithdai yn gyfangwbl, a'r sesiwn olaf yn Hen Golwyn oedd y prysuraf, wrth i ni gael cyfle i gwrdd â chriw rheolaidd Clwb Cyfryngau TAPE.
Roedd naws gwahanol i'r gweithdai yn ddibynnol ar bwy oedd yn bennaf wedi mynychu – er enghraifft, roedd y sgwrs yn wahanol pan oedd nifer o’r mynychwyr mewn sesiwn gyda phrofiad o weithio mewn archif, o gymharu â’r rheini oedd gyda phrofiad o weithio ym maes cynhyrchu ffilm a theledu.
Rhai o’r prif themâu a negeseuon i ddod allan o’r gweithdai oedd:
- Bod systemau cryf sy’n blaenoriaethu’r defnyddiwr yn hollbwysig i alluogi hygyrchedd
- Bod hi’n bwysig, wrth weithio i wella amrywiaeth a hygyrchedd mewn unrhyw sefydliad, bod arweinyddiaeth yn cefnogi staff i ymgymryd â’r gwaith
- Bod dealltwriaeth yn bwysig yn ogystal â bwriad wrth wneud gwaith ym maes cynhwysiant
- Mae cefnogi staff a sicrhau digon o adnoddau yn cyfrannu at well hygyrchedd
Be' nesaf?
Un o allbynnau’r prosiect yma fydd dogfen sy’n amlinellu blaenoriaethau i ni fel archif. Bydd y ddogfen yn cael ei seilio ar y trafodaethau gafwyd yn ystod y gweithdai yma (a’r gweithdy ar-lein sydd i ddod).
Bydd y ddogfen yn cynnwys adlewyrchiad a dadansoddiad dyfnach o’r sgyrsiau i ni eu cael, ac yn eu gosod yng nghyd-destun ymarferol a chynhyrchiol sy’n edrych tua’r dyfodol.
Bydd y prosiect yn dod i ben yn swyddogol ym mis Medi, a chyn hynny bydd mwy o blogiau am rai o weithgareddau’r prosiect, yn ogystal â mwy o wybodaeth am rai o’r ffilmiau perthnasol yn ein casgliadau.
Wrth gwrs, ni fydd diwedd y prosiect yn golygu diwedd y trafod. Tu hwnt i ffiniau penodol y prosiect, bydd ein cysylltiadau newydd, yn enwedig drwy ein partneriaid, yn golygu bod modd i ni barhau i gael sgyrsiau mwy penodol am anghenion a gobeithion defnyddwyr a darpar ddefnyddwyr yr archif.
Categori: Erthygl