Cyflwyniad
Ym mis Medi 2023 dechreuodd Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar brosiect blwyddyn wedi’i gefnogi gan y BFI a’r Loteri Genedlaethol, ‘Cymru Anabl’.
Mae’r prosiect treftadaeth sgrin hwn yn archwilio’r gynrychiolaeth o wneuthurwyr ffilmiau anabl a Byddar yn yr archif, yn ogystal â hygyrchedd y deunydd. Bydd Cymru Anabl yn gosod sylfaen ar gyfer gwaith trawsnewidiol a hirdymor i wella ffyrdd yr Archif o weithio.
Mae staff y prosiect yn gweithio ar y cyd gyda’r partneriaid Disability Arts Cymru, Cwmni Theatr Hijinx a TAPE: Community Music and Film, tri sefydliad Cymreig allweddol sy’n gweithio ym meysydd creadigrwydd cynhwysol a hygyrch.
Bydd Cymru Anabl hefyd yn ymwneud yn uniongyrchol gyda gwneuthurwyr ffilm, creadigolwyr, ymchwilwyr a darpar ddefnyddwyr anabl a Byddar, er mwyn rhannu gwaith yr archif, casglu adborth a chwilio am gaffaeliaid newydd.
Dros fisoedd gyntaf y prosiect wnaeth staff y prosiect archwilio, ymchwilio ac ail-ymweld ag eitemau yng nghasgliadau ffilm a fideo presennol sydd un ai amdano, neu wedi’u greu gan, bobl anabl a Byddar.
Mae’r rhain wedi cynnwys eitemau fel This is a B.D.D.A. film taken by members of Cardiff Branch (1935), Y Gŵr o Gwr yr Aran (1978) a Call Us By Name (1968), sydd i gyd ar gael i’w gwylio, am ddim, ar y BFI Player, wedi eu digidio fel rhan o brosiectau treftadaeth sgrin bfaenorol y BFI.
Mae eitemau eraill sydd wedi bod dan sylw staff y prosiect yn cynnwys dramâu S4C, animeiddiadau gan Gritty Films Ltd., a gwaith yr arloesol Chapter Video Workshop.
Gweminarau Hygyrch
Gweithgaredd cyhoeddus gyntaf y prosiect oedd cyflwyniad ar-lein i’r Archif Sgrin a Sain a’r prosiect. Roedd y cyflwyniad wedi’i anelu at bobl anabl a Byddar yn bennaf, ond roedd croeso i unrhyw un ei fynychu.
Er yn ddechrau gymharol syml i weithgaredd cyhoeddus y prosiect, does ddim lot mawr o brofiad gyda ni yn rhedeg gweminarau, ac felly oedd angen i ni gymryd yr amser i ddysgu arferion da er mwyn cynllunio’r gweithgaredd gyntaf mewn ffordd hygyrch. Mae trefnu digwyddiadau o’r math yma fel rhan o’r prosiect yn allweddol i ddysgu sut i weithio mewn ffyrdd fwy cynhwysol a hygyrch.
Roeddem yn gwybod o’r dechrau bod rhai i ni gynnig capsiynau byw a dehongliad BSL ar gyfer unrhyw sesiynau ar-lein fel rhan o’r prosiect. Roeddem ni’n ymwybodol hefyd bod gweithio’n ddwyieithog yn meddwl bod angen i ni wneud ystyriaethau ychwanegol wrth gynllunio’r digwyddiad.
Ar gyfer y digwyddiad gyntaf yma oeddem yn gwybod byddai angen i ni ddibynnu ar gapsiynau awtomatig, ac felly oedd yn rhaid i ni ddewis platfform oedd yn cynnig capsiynau byw yn y Gymraeg, a wnaeth hyn ein harwain i ni felly i ddefnyddio Microsoft Teams.
Penderfynom ni hefyd gynnal dau gweminar, un yn Saesneg ac un yn Gymraeg, yn hytrach nag un gweminar ddwyieithog, fel bod y capsiynau awtomatig – a’u tuedd i gamgymeriad – yn fwy tebygol o fod yn gywir na os oeddem ni’n defnyddio’r ddwy iaith.
Wrth drefnu dehongli BSL ar gyfer y gweminaru, wynebon ni her arall: dim ond nifer fach iawn o ddehonglwyr BSL sy’n gymwys i weithio o’r Gymraeg i BSL. Roedd hyn yn golygu bod ein cynlluniau ni’n gyfyng i’w hargaeledd nhw, ac o ganlyniad i hyn roedd rhaid i ni ail-drefnu dyddiadau gwreiddiol y digwyddiadau.
Mi oeddem yn ymwybodol fod angen rhoi digon o amser i ymgymryd â’r gwaith yma i sicrhau ein bod ni’n ei gynnal yn hygyrch, ond wrth ymgymryd â’r gwaith roedd yno wers i’w gael i beidio tanamcangyfrif yr amser oedd ei angen.
Roedd hyn hefyd yn wir wedi’r digwyddiad. Recordiwyd y gweminarau er mwyn sicrhau mynediad ehangach iddyn nhw. Roedd y gwaith o gywiro trawsgrifiadau’n cymryd cryn amser, a mwy felly oherwydd gweithio’n ddwyieithog.
Mae cam gyntaf yma’r prosiect felly wedi bod yn ffordd bwysig i ni nid yn unig gyflwyno’r prosiect yn gyhoeddus, ond hefyd i ddysgu rhai pethau allweddol am arferion gorau a sut i barhau gyda’r gwaith.
Camau nesaf
Ar gyfer cam nesaf y prosiect, byddwn ni’n cynnal gweithdai ar y cyd gyda’n partneriaid er mwyn siarad gyda phobl anabl a Byddar, ac yn arbennig gwneuthurwyr ffilm, creadigolion, ffans ffilmiau, defnyddwyr archifau a’r rheini sy’n frwd dros dreftadaeth.
Yn y gweithdai yma byddwn ni’n trafod archifau, cynrychiolaeth a mynediad. Byddwn yn rhannu ffilmiau o gasgliadau Sgrin a Sain a’u defnyddio fel sail trafodaeth a chyfranogaeth. Rydym yn gobeithio hefyd i ddysgu am waith ffilm a fideo gan grewyr anabl sydd ddim – ond dylai fod – yn yr archif.
Byddwn ni’n hefyd yn defnyddio’r hyn dysgwn ni o’r sesiynau yma i ddylanwadu ar waith fydd yn parhau tu hwnt i’r prosiect. Bydd Cymru Anabl, fel prosiect un-blwyddyn, yn ddarn penodol o waith wedi’i dargedu er mwyn dechrau ymdrechion hirdymor i wirioneddol ateb y cwestiynau yma mewn ffordd arwyddocaol.
Ein bwriad yw bod yn dryloyw am y prosesau yma oherwydd mae bob dim rydym ni’n dysgu – ta waeth pa mor syml – yn rhan bwysig o’r union reswm i ni ddylunio’r prosiect yma.
Byddwn yn rhannu darganfyddiadau’r prosiect mewn cofnodion fel hyn ac yn ehangach, yn arbennig gyda phartneriaid yn sector treftadaeth sgrin ym Mhrydain. Ein gobaith ni yw annog arferion gwell a’r rhannu parhaus o ddysgu yn y maes yma ac i gysylltu gydag eraill sy’n gwneud ymdrechion yn yr un maes.
Categori: Erthygl