Fel rhan o brosiect Cymru Anabl, mae staff yr Archif Sgrin a Sain wedi bod yn ystyried nifer o eitemau yn y casgliadau ffilm a fideo sy’n ymwneud ag anabledd, neu sydd wedi’u gwneud gan bobl anabl.
Mae nifer o’r ffilmiau wedi’u digido eisoes diolch i brosiectau treftadaeth sgrin y BFI, fel Unlocking Our Film Heritage. Diolch i'r prosiect hwnnw, mae rhai o ffilmiau’r archif felly ar gael yn hawdd i'w gwylio – am ddim! - ar y BFI Player.
Wrth i ni ddatblygu prosiect Cymru Anabl daeth yn amlwg bod modd i ni gyd-weithio gyda gwirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy ddefnyddio rhai eitemau o’r casgliad yma o ffilmiau.
Dyluniwyd tasg syml er mwyn archwilio sut mae gwylwyr y presennol yn teimlo am ffilmiau’r gorffennol. Ymhlith rheini wnaeth cymryd rhan yn y dasg oedd unigolion oedd yn adnabod eu hunain fel pobl anabl hefyd, gan ddod a’u profiadau bywyd nhw i'r dasg a’r ffilmiau.
Y cyfan oedd angen i'r gwirfoddolwyr gwneud oedd gwylio llond llaw o ffilmiau a chynnig ymateb personol iddyn nhw. Roedd tri chwestiwn i'r gwirfoddolwyr meddwl amdanyn nhw wrth wylio’r ffilmiau, gyda'r bwriad i ysgogi ystyriaeth o gynnwys y ffilm ei hun, ei chyd-destun cynhyrchu, a’r ffordd mae’n cael ei chyflwyno. Wrth gwrs roedd hefyd croeso i'r gwirfoddolwyr rhannu unrhyw adborth ychwanegol nad oedd yn ymateb i'r cwestiynau yn uniongyrchol.
Roedd pum ffilm ar gael i wylio gan y gwirfoddolwyr (nid oedd rhaid iddyn nhw wylio bob un).
Mae The Opening of Prince of Wales Hospital at Cardiff (1918) yn ddogfen o agoriad Ysbyty Cymru a Mynwy ar gyfer Morwyr a Milwyr Heb Aelod. Mae’n dangos dwsinau o gyn-filwyr a chyn-forwyr yn arddangos eu hanafiadau a’r aelodau prosthetig sy’n eu cefnogi nhw. Cawn weld hefyd nifer o fawrion sy’n mynychu’r agoriad ac sy’n cael gweld ychydig ar waith yr ysbyty.
Mae This is a BDDA Film Taken By Members of Cardiff Branch (1935) yn dogfennu nifer o dripiau aelodau Clwb Byddar Caerdydd, i lefydd fel Weston-Super-Mare a Chwm Elan. Mae’r ffilm yn cynnwys rhyng-deitlau (‘intertitles’) sy’n dangos dwylo’n sillafu’r geiriau drwy iaith arwyddion, yn hytrach na thrwy destun mwy disgwyliedig.
Cyfarwyddwyd Call Us By Name (1968), sy’n dathlu canmlwyddiant yr RNIB, gan Bernice Rubens, yr awdur enwog a’r unig enillydd Cymreig o’r Wobr Booker. Yn y ffilm mae nifer o bobl ddall, o bob oedran, yn rhannu eu profiadau nhw o fyw a bod yn y byd a sut mae’r RNIB yn eu cefnogi nhw i ddatblygu sgiliau.
Cyfarwyddwyd J.G: John Ivor Golding (1973) gan Neil White, pan oedd yn ei flwyddyn olaf yn Ysgol Ffilm Casnewydd. Mae’n bortread o John Ivor Golding, cymeriad lleol oedd yn byw yn ysbyty seicolegol Whitchurch. Mae’n ffilm arbrofol ei harddull, sy’n rhoi’r ffocws yn llwyr ar storïaeth annibynadwy Golding, ac weithiau’n cynnig portread tywyll o fywyd y cyfnod.
Mae Y Gŵr o Gwr Yr Aran (1978) yn bortread o Frank Letch, a gafodd ei eni heb freichiau, a’i fywyd yn Llanuwchllyn, lle symudodd o Loegr, gan ddysgu Cymraeg yn rhugl. Mae’r ffilm yn gyfweliad estynedig gyda Frank, sy’n trafod ei agwedd at fywyd, gan gynnwys ei gyflwr a’i berthynas â’r Gymraeg.

Ar y cyfan roedd y gwirfoddolwyr wedi mwynhau’r ffilmiau a’u hystyried nhw’n ddarluniau positif o anabledd. Yn benodol roeddynt yn gytûn bod y ffaith i'r ffilmiau portreadu lleisiau pobl anabl yn uniongyrchol yn hollbwysig i'r positifrwydd. Er, enghraifft, roedd clywed yn uniongyrchol gan bobl ddall yn Call Us By Name yn beth bositif a thrawiadol i'r gwirfoddolwyr. Ar drywydd tebyg, roedd y gwirfoddolwyr hefyd yn obeithiol buasai ffilm gyfredol debyg i The Opening of Prince of Wales... yn sicrhau bod lleisiau trigolion yr ysbyty yn cael eu clywed.
Ffilm oedd yn sefyll allan o’r detholiad oedd J.G, sef ffilm gymharol dywyll ac anodd ei chynnwys. Dewisodd rhai o’r gwirfoddolwyr beidio gwylio’r ffilm oherwydd y rhag-rhybudd wnaethon ni gynnwys am y ffilm, ac roedd y rheini wnaeth ei gwylio’n synnu nad oedd nodyn cynnwys i'r gael ar y BFI Player hefyd. Roedd hyn yn adborth pwysig i ni, ac yn tanlinellu pwysigrwydd gwaith diweddar gan rhai o staff yr adran yn y maes yma.
Nododd un gwirfoddolwr rhywbeth oedd yn gyffredin i nifer o’r ffilmiau, sef y pwyslais ar yr angen i bobl anabl fod yn gynhyrchiol, er enghraifft drwy bwyslais ar waith a gweithio. I’r gwirfoddolwr yma, roedd hyn yn nodweddiadol o agwedd annheg tuag at bobl anabl, hyd yn oed ymysg portreadau oedd fel arall ar y cyfan yn rhai positif. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd model cymdeithasol anabledd, sy’n adnabod taw rhwystrau cymdeithasol – fel gweithleoedd sydd ddim yn hygyrch – sydd angen eu datrys, yn hytrach na chynhyrchiant pobl sy'n cael eu hanablu gan yr union rwystrau rheini.
Tu hwnt i'r ffilmiau eu hunain, sylwodd rhai gwirfoddolwyr ar y metadata oedd yn cyd-fynd gyda’r ffilmiau. Fel yr awgrym y dylai nodiadau cynnwys fod yn rhan o metadata lle’n briodol, roedd awgrymiadau eraill gan y gwirfoddolwyr – fel creu fersiynau sain o metadata – hefyd yn ddefnyddiol i ni fel adborth. Roedd hefyd sylw fod angen i ansawdd is-deitlau bod yn dda ar ffilmiau i sicrhau hygyrchedd, gydag is-deitlau archifol Y Gŵr o Gwr Yr Aran yn enghraifft o is-deitlau israddol.
Mae’r adborth cawsom gan y gwirfoddolwyr am y detholiad yma o ffilmiau’n werthfawr iawn i ni wrth i ni ddatblygu allbynnau’r prosiect ehangach, gan gynnwys creu blaenoriaethau ar gyfer gwaith ym maes hygyrchedd fydd angen digwydd yn y dyfodol. Diolch yn arbennig felly i Gwyneth, Eilir, Betsan, Rachel Ann, Shani a Sara am eu help a’u cyfraniad i'r dasg ac i'r prosiect!
Categori: Erthygl