Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae mynediad i gasgliadau'r Llyfrgell ac Adnoddau Allanol yn dibynnu ar y math o aelodaeth Llyfrgell sydd gennych ac a ydych chi yn yr adeilad ai peidio. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei weld isod.
Nid oes angen cofrestru er mwyn:
Yn ddibynnol ar lle rydych chi'n byw, mae cofrestru fel aelod arlein yn caniatáu i chi:
Math o aelod | Gwneud ceisiadau trwy Gatalog LlGC | Mynediad i Draethodau Cymreig Digidol o unrhywle | Mynediad i Danysgrifiadau o unrhyw le |
---|---|---|---|
Aelod arlein (yng Nghymru) | Ie | Ie | Ie |
Aelod arlein (tu allan i Gymru) | Ie | Ie | Na |
Gallwch uwchraddio i aelod llawn, sy'n cynnig mynediad i'r Ystafell Ddarllen a WiFi. Pan fyddwch chi yn yr adeilad, cewch fynediad i'r deunydd electronig a ganlyn:
Math o ddeunydd | WiFi | Terfynellau |
---|---|---|
Adnoddau Allanol (Noder: Mae gan aelodau llawn ac arlein yng Nghymru fynediad at y rhain o'u cartref) | Ydi | Ydi |
Adnoddau Allanol cyfyngedig | Ie* | Ie |
Erthyglau ac eLyfrau Adnau Cyfreithiol Electronig (Noder: Gall unrhyw un chwilio'r rhain trwy gatalog LlGC) | Na | Ie |
Gwefannau Adnau Cyfreithiol Electronig (Noder: Ni ellir chwilio'r rhain trwy Gatalog LlGC - dim ond trwy ddyfeisiadau yn yr Ystafelloedd Darllen) | Na | Ie |
*Dim ond trwy beiriannau penodol yn yr Ystafelloedd Darllen o fewn y Llyfrgell y ceir mynediad i rai Adnoddau Allanol cyfyngedig.