Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o seigiau a ddarperir gan gaffi Pen Dinas - o bwffes i brydau poeth ac oer, byrbrydau a melysfwydydd - yn ôl eich anghenion.
Gallwch brynu tocynnau bwyd a diod ymlaen llaw y gellir eu defnyddio yng Nghaffi Pen Dinas. Gallwch hefyd drefnu i ni gadw bwrdd neu fyrddau ar eich cyfer.
Neu gallwch archebu bwyd a diod i’w gweini yn yr ystafell drwy gwblhau a dychwelyd ein ffurflen arlwyo gyda’ch anghenion.
Archebwch dderbyniad gwin yn yr un fodd - drwy gwblhau a dychwelyd ein ffurflen arlwyo gyda’ch anghenion.
Darllenwch ein telerau ac amodau yn ofalus cyn archebu os gwelwch yn dda. Dychwelwch ffurflenni archeb at gwas-ymwelwyr@llgc.cymru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, ffoniwch (01970) 632801 os gwelwch yn dda.