Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Stiwdio Fideogynadledda sydd yn defnyddio systemau H.323 cyfredol i ddarparu cysylltiadau sain-weledol ar unrhyw rwydwaith paced. Mae'r stiwdio'n cynnwys CODEC, sgrîn deledu fawr, a chamera HD.
Bwriedir darparu gwasanaethau FG ymylol yn y dyfodol. Ein Adran Isadeiledd Digidol sydd yn gweinyddu'r system, gyda chefnogaeth Rhwydwaith Fideo Cymru.
Mae cyfathrebu gydag unrhyw unrhyw sefydliad sydd eisoes wedi cysylltu â Janet yn hawdd trwy Vscene, ond mae modd cynnal galwadau uniongyrchol ac i sawl cyswllt ar yr un pryd.
Bydd unrhyw drefniad sydd yn dod trwy wefan Vscene yn cysylltu'n awtomatig, a bydd yn gyrru ebost i'r cyswllt penodol.
Am fwy o wybodaeth neu i logi’r stiwdio, ffoniwch Gwasanaethau Ymwelwyr ar 01970 632 801 neu e-bostiwch gwas-ymwelwyr(at)llgc.org.uk.
Croesewir grwpiau i’r Llyfrgell ar gyfer teithiau tywys. Boed yn gymdeithas neu'n ysgol, gallwn ddarparu taith addas.
Cysyllter â 01970 632 801 neu gwas-ymwelwyr(at)llgc.org.uk i drefnu.
Gall y Llyfrgell ddarparu prydau parod ar gyfer eich digwyddiad, o luniaeth ysgafn i brydau mwy sylweddol. Gweler y dudalen arlwyo. Cysyllter â 01970 632 800 neu gwas-ymwelwyr(at)llgc.org.uk am wybodaeth bellach.
Cynigir gwasanaeth llungopïo cynhwysfawr am bris cystadleuol. Cysyllter â 01970 623 800 neu gwas-ymwelwyr(at)llgc.org.uk i drafod eich anghenion.