Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 4738D

3 dernyn hynafol o bapyrws o'r Aifft ydynt, yn dyddio o 113 OC hyd y 4edd ganrif. Maent yn esiampl o'r miloedd o bapyri a ddarganfuwyd yn yr Aifft yn yr 1890au, ac er mai papurau cyffredin, pob dydd ydynt, ceir ynddynt hanes gwerthfawr cymdeithas eu cyfnod.

Beth yw papyrws?

Deunydd ysgrifennu hynafol o'r Aifft yw papyrws. Fe'i gwnaed o ddeunydd mewnol y papurfrwyn, planhigyn o lannau afon Nil. Yn wahanol i'r papur a ddefnyddiwn i ysgrifennu heddiw, roedd y papyrws yn ddefnydd trwchus, gwydn a chryf.


Tomenni sbwriel Oxyrhynchus

Tref hynafol yng ngogledd yr Aifft oedd Oxyrhynchus (lle saif tref al-Bahnasa heddiw), tua 160km i'r de-orllewin o Cairo ar un o gamlesi'r afon Nil. Bu'n ddinas lewyrchus yn y cyfnodau Helenistaidd a Rhufeinig, ond erbyn heddiw nid oes bron dim ohoni ar ôl i'w gweld.Fodd bynnag, mae hanes y dref wedi goroesi drwy ysbwriel ei thrigolion a ddarganfuwyd mewn tomenni enfawr tu allan i'r dref.

Ni thalwyd fawr o sylw i Oxyrhynchus fel safle hynafol o bwys tan yr 1890au hwyr pan gloddiwyd y tomenni sbwriel gan ddau bapurolegwr ifanc o'r 'Egypt Exploration Society', Bernard Grenfell ac Arthur Hunt. Yno, o dan lluwchfeydd o dywod, cawsant hyd i werth mil o flynyddoedd o bapyri a oedd wedi eu cadw mewn amodau delfrydol oherwydd lleoliad y dref - nid yw'n glawio bron dim yn y rhan yma o'r Aifft, ac er ei bod ar ochr camlas ni fyddai Oxyrhynchus yn dioddef llifogydd yn flynyddol fel glannau'r afon Nil.

Papyri'r Llyfrgell Genedlaethol

Dosbarthwyd enghreifftiau o bapyri Oxyrhynchus ymhlith amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sefydliadau tebyg yng ngorllewin Ewrop, a rhoddwyd 3 o'r dernynnau hynafol yma i'r Llyfrgell Genedlaethol ym mis Medi 1922, sef Llsgr. NLW 4738D. Maent yn cynnwys derbynneb am randaliad o dreth y pen, archeb i gyflenwi pobydd â pherlysieuyn o'r enw fenugreek (corfeillion gwynion) a llythyr gan ŵr o'r enw Demetrianus.


Darllen pellach

  • Egypt Exploration Society: The Oxyrhynchus papyri, Cyfrol XII, (Llundain, 1898-19), rhifau 1521, 1572 a 1590.
  • Parsons, Peter : The city of the sharp nosed fish : Greek lives in Roman Egypt (Llundain, 2007)