Symud i'r prif gynnwys


Yn y cyhoeddiadau arwyddocaol hyn ceir cofnod o farddoniaeth Cymraeg a Chymreig cynnar, Brutiau, a Chroniclau. Fe’i cyhoeddwyd mewn tair cyfrol, dau ym 1801, a’r naill ym 1807. Yn ôl rhai ysgolheigion, symbyla hwy ddiwedd cyfnod y llawysgrif yng Nghymru. Owain Myfyr a William Owen Pughe oedd yn bennaf gyfrifol am dynnu’r cyhoeddiadau ynghyd, ond fe’u cynorthwywyd hefyd gan Iolo Morganwg wrth lunio’u cynnwys. Enwyd y cyfrolau serch hynny ar ôl Owain Myfyr, wedi iddo gyfrannu’n hael iawn yn ariannol i’r fenter: mae’n debyg rhwng pedwar a phum mil o bunnoedd. Teithio ar hyd a lled llyfrgelloedd Cymru a wnaeth Iolo Morganwg er mwyn darganfod ystod o ddeunydd i’w cynnwys. Strwythuro’r ffynonellau hynny a wnaeth William Owen Pughe, er mwyn eu paratoi ar gyfer y wasg. Nid oedd y fenter yn hollol lwyddiannus, a chafwyd cryn broblemau wrth drawsysgrifio’r gwaith. Yn ogystal, ni wnaeth yr amheuon cynyddol ynghylch dibynadwyedd gwaith Iolo Morganwg unrhyw gyfiawnder a gwerthiant diweddarach y cyfrolau.