Symud i'r prif gynnwys


Ymfudwr a Chrynwr nodedig oedd Ellis Pugh, a ddaeth yn aelod o Eglwys y Cyfeillion (Friends Church) yn ddeunaw oed. Ym 1686 teithiodd yntau, ynghyd a’i deulu a llawer o Gymry eraill, i Pensylfania. Erbyn haf 1686, yr oedd Pugh wedi ymsefydlu yn yr Amerig fel amaethwr a gweinidog. Ar ei ôl, fe adawodd gwaith ar ffurf llawysgrif, o dan y teitl ‘Annerch ir Cymru’. Cyhoeddwyd yn ddiweddarach ym Mhensylfania ym 1721, a chaiff ei gydnabod fel y llyfr Cymraeg cyntaf i’w gyhoeddi yng Ngogledd America. Yn ddigon tebyg i’r sefyllfa yng Nghymru, argraffu deunydd oedd y modd fwyaf effeithiol o drosglwyddo gwerthoedd a chredoau crefyddol.