Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ganed George Borrow yn Norfolk ym 1803. Milwr oedd ei dad, ac o ganlyniad bu’n rhaid i’r teulu symud ar draws y Prydain yn aml. Addysgwyd Borrow yng Nghaeredin a Norwich. Hyfforddwyd ef fel cyfreithiwr, ond yn fuan wedi hynny, trodd at lenyddiaeth greadigol, yn benodol nofelau a llyfrau teithio. Wrth ysgrifennu, manteisiodd ar ei brofiadau personol, yn enwedig ei deithiau niferus ar draws Prydain ac Ewrop. Yn ei gyfrol ‘Wild Wales’ disgrifia Borrow ei gyfnod yn Llangollen yn ystod haf 1854. Crwydrodd ar draws ogledd Cymru ar droed, ynghyd â rhannau o’r de; disgrifia'r rhain hefyd yn ‘Wild Wales’. Roedd Borrow yn ieithydd nodedig; medrodd y Gymraeg a dangosodd ddiddordeb penodol yn nharddiad enwau lleoedd Cymru.