Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Argraffydd, awdur a bardd hysbys oedd W. E. Jones. Cyflwyna Jones, yn ei gyfrol ryddieithol ramantus ‘Y bardd, neu, y meudwy Cymreig’, lu o ddisgrifiadau dychmygol o deithiau rhyngwladol. Disgrifia’r awdur ei siwrnai o un lleoliad i’r llall, ynghyd ag aros mannau penodol. Weithiau, caiff y gwaith ei gydnabod fel y nofel Gymreig gyntaf, er nad yw ‘Y bardd, neu, y meudwy Cymreig’ yn meddu ar briodweddau nofel.