Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Roedd Twm o'r Nant (Thomas Edwards) yn ddramodydd nodedig ac yn awdur nifer o anterliwtiau. Ymhlith ei weithiau mwyaf poblogaidd oedd ‘Tri Chryfion Byd’. Personolir tlodi, cariad a marwolaeth yn yr anterliwt ac y maent oll yn pregethu, adrodd, cynghori a sylwebu drwy gydol y ddrama fywiog a ddigri. Fel llawer o weithiau eraill Twm o’r Nant, y mae ‘Tri Chryfion Byd’ yn cynnwys sylwebaeth gymdeithasol.