Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol yn ystod yr wythnosau nesaf. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Bardd, awdur a sosialydd nodedig oedd R. J. Derfel. Ef oedd awdur y ddrama enwog ‘Brad y Llyfrau Gleision’ sef ei ymatebiad uniongyrchol i adroddiadau addysg 1847. Portreadir Cymru fel gwlad odidog a Duwiol yn y ddrama, ac o’r herwydd, y mae’n lleoliad annioddefol yn llygaid gythreuliaid uffern. Er hynny, maent yn derbyn â hoffter clerigwyr Eglwysig Cymru, grŵp a ddarparodd lawer o dystiolaeth wrth lunio adroddiadau 1847. Wedi cyhoeddiad y Llyfrau Gleision cyhuddwyd rhai clerigwyr o frad, yn bennaf oll gan Anghydffurfwyr teyrngar. Yn ystod yr ail act danfona Beelzebub (tywysog y cythreuliaid) tri archwilydd i Gymru i asesu cyflwr y wlad a’i phobl, nid yn annhebyg i’r tri dirprwy a benodwyd i lunio adroddiadau 1847. Fodd bynnag, cyflawnir y ‘brad’ gan glerigwyr yr Eglwys. Yr oedd rhai o’r farn, gan gynnwys Derfel, bod eu tystiolaeth wedi cynorthwyo, a hyd yn oed bwydo beirniadaethau gwrth Cymreig Llyfrau Gleision 1847. Ysbrydolwyd y ddrama gan chwedl ‘Brad y Cyllyll Hirion’.