Symud i'r prif gynnwys


Roedd ‘Llyfr pawb ar bob-peth’ hefyd ymysg rhai o weithiau mwyaf poblogaidd Thomas Thomas. Cyfrol fechan o gyfarwyddiadau i ‘bawb ar bob-peth’ ydoedd. Fe’i hanelwyd at gynulleidfa eang ac amrywiol. I’r dyn ifanc, cyflwynwyd cyfarwyddiadau ar sut i ddarllen ac ysgrifennu, esboniwyd y cod ymddygiad derbyniol, fe’i cynghorwyd ar sut i wisgo’n daclus a dewis gwraig addas. I’r ferch ifanc rhoddwyd cyfarwyddiadau manwl ar sut i lanhau a chadw gwisgoedd. I’r pâr ifanc awgrymwyd sut i ddewis, prynu ac adeiladu tŷ, trefnu’r cartref a llywodraethu’r teulu. I’r ffarmwr a’r amaethwr cafwyd argymhellion ar sut i drin y tir, magu stoc a sicrhau cynnyrch o’r radd flaenaf.