Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Gweinidog Wesleaidd ac awdur amrywiol oedd Thomas Thomas. Cynhyrchodd nifer o lyfrau poblogaidd ac roedd ‘Llyfr Coginio a Chadw Tŷ’ yn arbennig o lwyddiannus. Roedd y llyfr hwn wedi ei anelu at fenywod Cymru. Ei brif nod oedd dysgu’r wraig Gymreig sut i baratoi a choginio bwyd blasus a maethlon. Llyfr cyfeirio ydoedd i’r gogyddes ddibrofiad, fel y noda’r awdur wrth gyfiawnhau manylder llethol ei gyfarwyddiadau. Rhoddwyd cyfarwyddiadau ar sut i drefnu’r aelwyd er mwyn sicrhau cartref iach a chysurus ar gyfer yr uned deuluol. Roedd yr awdur yn argyhoeddedig mai diffygion ynghylch y cartref a yrrai gwŷr i’r dafarn.