Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
“The memories of childhood have no order, and no end.”
Y dyddiad yw’r 27ain o Hydref 1914, a genir Dylan Marlais Thomas mewn ugly, lovely town… crawling, sprawling by a long and splendid curving shore, sef Abertawe. Ymddengys plentyndod Dylan yn un digon cyffredin: chwarae gyda’i ffrindiau ym Mharc Cwmdonkin, camfihafio yn nosbarthiadau Ysgol Ramadeg Abertawe a threulio’i hafau naill ai ar draethau’r Gŵyr neu ar fferm ei fodryb, Fern Hill.
Darllena ei dad iddo’n rheolaidd – hwiangerddi yn ogystal â champweithiau telynegol Shakespeare, a dyma’i gariad at eiriau yn blaguro. Ar ddechrau ei arddegau mae’n ddarllenwr a bardd brwd; mae’n cyfrannu at gylchgrawn yr ysgol a dod yn olygydd, mae’n cyfansoddi barddoniaeth yn ei lyfrau ysgol, ysgrifennu limrigau am ei ffrind Daniel Jones a chydweithio ag ef i greu ‘The Era’, cylchgrawn llenyddol a gyhoeddir chwe gwaith y flwyddyn. Ar hyd y blynyddoedd mae Dylan yn ysgrifennu llawer am ei blentyndod mewn darllediadau radio, straeon byrion a cherddi amrywiol.
Ysgrifenna am y crwca yn y parc, am arogl pysgod a sglodion ar nos Sadwrn, y traethau euraidd a’r môr sy’n canu. Cyfnod yw’r Nadolig i daflu peli eira at gathod, ac i chwarae Snakesand-Families a Happy Ladders. Mae Ewythrod yn ’smygu sigârs a Modrybedd yn meddwi ar win panas. Ysgrifenna am yr halibalŵ mud o falŵ ns ar lan y môr lle mae tywod yn y gacen a phryfed ym merw’r dŵr. Am yr hobi neu’r grefft amyneddgar, lafurus a swynol o gladdu perthnasau yn y tywod, neu’r difyrrwch ysblennydd o dywallt tywod i lawr ffrogiau. Arogl y môr a’r gwymon, a sŵn gweiddi a chwerthin a chanu. Ffynna ei gariad hiraethus at blentyndod dros y blynyddoedd.