Symud i'r prif gynnwys

e-gyfnodolion Cymru

1. Newsbank (trwy gyfrif LlGC)

Mynediad am ddim i rifynnau cyfredol a diweddar o bapurau newydd y D.U. ac Iwerddon (2007-) gan gynnwys 37 cyhoeddiad o Gymru gan gynnwys The Western Mail, Carmarthen Journal a’r Western Telegraph.

2. Papurau Newydd Cymru Ar-lein

Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn darparu mynediad am ddim i 1.1 miliwn tudalen - 15 miliwn o erthyglau -  o dros 100 o gyhoeddiadau o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1804-1919). Yn cynnwys papurau newydd a ddigidwyd ar gyfer Cymru 1914 – Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig.

(Gweledigaeth i’r adnodd ddatblygu i fod yn gasgliad cenedlaethol rhithiol o bapurau newydd i Gymru gyda chynnwys partneriaid, adeiladu ar hunaniaeth Newsplan Cymru?).

3. Papurau Bro – papurau newydd cymunedol ar-lein

Darparu rhestr e.e. www.clonc.co.uk, www.dinesydd.com, www.llaisogwan.com.

(Cyf. http://www.llyfrgell.cymru/collections/learn-more/printed-materials/communitynewspapers).

4. Cylchgronau Cymru Ar-lein

Cylchgronau Cymru Ar-lein yn darparu mynediad am ddim i ddetholiad o gylchgronau Cymraeg a Chymreig o’r 19eg, 20fed a’r 21ain ganrif o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a sefydliadau partner. 400,000 tudalen o 45 cyhoeddiad. Ystod eang o destunau gan gynnwys y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol a thechnoleg.

Yn 2015 bydd yr adnodd yn tyfu i gynnwys 1 miliwn tudalen ychwanegol o gylchgronau hanesyddol (cynnwys sampl a rhyngwyneb newydd ar gael yn http://welshjournalsbeta.llgc.org.uk/cy/home).

5. Rhestr Wikipedia o archifau papurau newydd ar-lein

http://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:List_of_online_newspaper_archives

Arall: e-gronau – eisoes ar-lein drwy welshlibraries.org

http://welshlibraries.org/cy/e-adnoddau/e-gronau/