Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nod gweithgareddau cadwedigaeth y Llyfrgell yw ymestyn rhychwant oes y deunyddiau. Er bod mwyafrif yr eitemau sy’n cael eu dal yn y casgliadau yn organig o ran natur ac yn cynnwys elfennau sy’n dadfeilio, mae’n bosibl arafu’r dirywiad hwn a sicrhau y gellir eu defnyddio gan genedlaethau’r dyfodol.
Gall tymheredd anghywir a lleithder perthynol effeithio’n andwyol ar ddeunydd casgliadau. Gall deunyddiau droi’n frau os yw’r amodau’n rhy sych, ond gall lleithder uchel gynyddu’r risg o dwf llwydni a phlâu. Mae storfeydd a mannau arddangos yn cael eu monitro’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod yr amodau yn sefydlog ac yn addas i’r math penodol o ddeunydd.
Am resymau iechyd a diogelwch, mae’n bwysig sicrhau bod casgliadau yn lân ac yn ddiogel i’w defnyddio gan ddarllenwyr a staff. Gall llwch organig a sborau llwydni a ddarganfyddir ar lyfrau a deunyddiau archifau gael effaith andwyol ar iechyd. Mae’r Llyfrgell yn rhedeg rhaglen lanhau a chynnal a chadw storfeydd yn rheolaidd. Gall eitemau ddod i’r Llyfrgell sy’n llawn llwydni, pryfetach, baw a llwch. I leihau’r risg o lygru casgliadau’r Llyfrgell, mae deunydd amheus yn cael ei gadw mewn ardal cwarantin, wedi’i ynysu o weddill y casgliadau. Mae’r deunydd yn cael ei lanhau’n drylwyr cyn cael ei integreiddio i brif gasgliadau’r Llyfrgell.
Mae blwch yn creu microhinsawdd sy’n amddiffyn eitemau rhag difrod. Mae gan y Llyfrgell ddau beiriant gwneud blychau sy’n cynhyrchu blychau di-asid pwrpasol o ansawdd archifol.
Mae eitemau fflat megis mapiau, posteri a chynlluniau yn cael eu mewngapsiwleiddio mewn polyester o ansawdd archifol. Mae hwn yn amddiffyn yr eitemau rhag difrod, ac yn aml yn diddymu’r angen i atgyweirio mapiau sydd eisoes wedi torri. Gosodir printiau, lluniadau a ffotograffau mewn mowntiau o ansawdd archifol i’w harddangos neu storio.
Prif weithgareddau’r Uned Cynnal Casgliadau yw lleoli, gosod ar silffoedd a chadw trefn ar y miloedd o lyfrau, cyfnodolion, papurau newydd ac eitemau eraill sy’n cyrraedd y Llyfrgell yn rheolaidd. Mae’r uned yn sicrhau y gwneir y defnydd mwyaf effeithlon ac effeithiol o ofod trwy weithredu rhaglen o resymoli gofod a sicrhau bod deunydd yn cael ei leoli yn y mannau storio mwyaf addas ar gyfer ei fformat. Yn ogystal, mae’r uned yn gyfrifol am arwain y rhaglen cymryd stoc gan alluogi archwiliad o’r casgliadau corfforol.
Nod rhaglen ddigido’r Llyfrgell yw creu màs critigol o gynnwys wedi’i ddigido, yn seiliedig ar y casgliadau. Mae digido deunydd gwreiddiol yn cyfrannu at gadwedigaeth hirdymor y deunydd gwreiddiol sy’n cael ei ddigido, gan ei fod yn lleihau bodio a byseddu. Bwriad y Llyfrgell hefyd yw darparu copïau dirprwyol parhaol o’r deunydd bregus a throsglwyddo cynnwys sydd mewn perygl i fformatau digidol er mwyn sicrhau mynediad a diogelwch tymor hir. Yn ogystal, bydd y Llyfrgell yn sicrhau cadwedigaeth y deunyddiau analog gwreiddiol.
Cyfres o weithgareddau yw Cadwedigaeth Ddigidol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau y gellir lleoli, darparu, defnyddio a deall gwrthrychau digidol yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys rhoi trefn ar enwau a lleoliadau’r gwrthrych, diweddaru’r cyfryngau storio, dogfennu’r cynnwys a thracio newidiadau caledwedd a meddalwedd i wneud yn siŵr y gellir parhau i agor a deall gwrthrychau digidol.
Gwrthrych digidol yw ‘gwrthrych wedi’i greu o set o ddilyniannau did’. Gall gwrthrych digidol fod naill ai’n ‘ddigidol anedig’ neu’n ‘ddirprwy digidol’ sy’n ganlyniad digido gwrthrych analog neu gorfforol.
Gall gwrthrychau digidol gymryd 3 gwahanol ffurf:
Dyma rai o’r problemau sy’n effeithio ar y gallu i ddiogelu gwrthrychau digidol a chael mynediad atynt:
Difrod / dirywiad corfforol – yn gallu effeithio ar galedwedd a’r cludwyr cyfryngau y mae’r deunydd digidol yn cael ei storio arnynt. Dyma rai enghreifftiau o ddifrod / dirywiad corfforol:
Fformat ffeil yw’r dull penodol o amgodio gwybodaeth i’w storio mewn ffeil gyfrifiadurol. Mae’r ffordd benodol y mae ffeil yn cael ei llunio a’i threfnu yn cael ei dangos yn aml mewn dogfen a elwir yn fanyleb fformat ffeil. Mae’r ddogfen hon yn rhoi’r manylion angenrheidiol i greu ffeil ddilys o fath arbennig ac i ddatblygu cymwysiadau meddalwedd a all amgodio ac adfer ffeiliau o’r fath.
Mae gwrthrychau digidol yn dod mewn sawl gwahanol fformat ond o ran cadwedigaeth ddigidol mae’n hanfodol bod y gwrthrychau digidol hyn yn cael eu derbyn ar raddfa eang a chyffredinol mewn dull fformat agored ar gyfer cadwedigaeth tymor hir. O’r herwydd, mae’r Llyfrgell yn cymryd gofal mawr wrth ddethol fformat ffeil ar gyfer cadwedigaeth ac mae’n gweithio i greu canllawiau i adneuwyr fformatau ffeil a dderbynnir ac a gymeradwyir fel y rhai gorau. Ar gyfer delweddau a grëwyd gan y Llyfrgell fel rhan o’i rhaglen ddigido, mae’r Llyfrgell ar hyn o bryd yn creu 3 copi o’r ddelwedd - ffeil TIFF meistr at ddibenion cadwedigaeth a dwy ffeil ddeilliadol lai, JPG ar gyfer y cyfeirnodi neu gynllun y sgrin, a GIF ar gyfer y fersiwn braslun bawd. Weithiau, os yw adnodd yn elwa o gyfleusterau chwyddo, bydd ffeil PFF yn cael ei chreu hefyd.
Mae nodweddion nodedig yn briodoleddau hanfodol gwrthrych digidol sy’n effeithio ar ei ymddangosiad, ymddygiad, ansawdd a’i ddefnyddioldeb. Gellir eu grwpio i gategorïau megis
Rhaid gwarchod nodweddion nodedig dros amser fel bod y gwrthrych digidol yn dal yn gyraeddadwy ac ystyrlon.
Mae Strategaeth Cadwedigaeth Ddigidol y Llyfrgell yn adeiladu ar y gwaith cadwedigaeth ddigidol presennol er mwyn parhau i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir asedau digidol - y digidol anedig a’r rhai wedi eu digido - sy’n cael eu dal gan y Llyfrgell.