Symud i'r prif gynnwys

Cefndir

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cof y genedl. Yn draddodiadol mae wedi casglu, cadw, diogelu a darparu mynediad i ystod eang o fformatau megis llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd, llawysgrifau ac archifau, mapiau, paentiadau, darluniau a phrintiau, ffotograffau, sain a delweddau symudol. Yn ystod y degawd diwethaf mae cyfryngau electronig wedi ffurfio canran cynyddol o'r deunydd a dderbynnir gan y Llyfrgell, ac rydym yn awr yn wynebu'r her enfawr o sut i ddiogelu cof digidol Cymru. I'r perwyl hwn lluniwyd Polisi a Strategaeth Cadwedigaeth Ddigidol cyntaf y Llyfrgell yn 2008, eisoes i hynny cafodd i ail-ysgrifennu yn 2012.

O ganlyniad i'r twf aruthrol yn nefnydd y Rhyngrwyd yn ystod y degawd diwethaf, mae mwy a mwy o ddeunydd yn ymddangos ar y We Fyd-eang, gyda rhai 'cyhoeddiadau' yn ymddangos mewn ffurf rithwir ac yn aml am gyfnod byr yn unig. Mae'n angenrheidiol felly ein bod yn cymryd camau heddiw i sicrhau y byddwn yn medru gweld a darllen y gwefannau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Sefydlwyd cynllun peilot Archif Gwefannau Cymru er mwyn edrych ar y ffordd orau i greu a chynnal archif o ddeunyddiau ar y we o ddiddordeb Cymreig a chynnig mynediad iddynt.


Cynllun Archif Gwefannau Cymru

Dechreuodd y prosiect ym Mehefin 2003 ac mae dal i redeg heddiw. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cydweithio â phartneriaid megis y Llyfrgell Brydeinig, JISC ac Ymddiriedolaeth Wellcome, ar gynllun Prydeinig i archifo deunydd ar y We.

Nod y prosiect

  • Dewis a chasglu gwefannau ar gyfer cadwraeth a chreu casgliad ar lein ar gyfer y cyhoedd

Rhai o amcanion y prosiect

  • Dewis gwefannau o ddiddordeb Cymreig

  • Disgrifio'r gwefannau hyn gan ddefnyddio safonau priodol

  • Creu metadata ar gyfer cadwedigaeth tymor hir

  • Datblygu prosesau llif gwaith

  • Gwerthuso meddalwedd casglu gwefannau

  • Cydweithio gyda sefydliadau archif gwefannau eraill yn y Deyrnas Unedig

  • Cydweithio a chydweithredu ag unigolion a sefydliadau sy'n weithgar ym maes cadwedigaeth ddigidol

Am fwy o wybodaeth ebostiwch ukwac@llgc.org.uk.


Cysylltiadau defnyddiol

Archifo gwefannau

  • Internet Archive Llyfrgell ddigidol o safleoedd ar y Rhyngrwyd ers Hydref 1996.

Cadwedigaeth ddigidol

  • Polisi a strategaeth cadwedigaeth ddigidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Digital Preservation Coalition Cynghrair a sefydlwyd yn 2001 i sicrhau cadwedigaeth adnoddau digidol yn y DU, ac i gydweithio ag eraill yn rhyngwladol er mwyn diogelu ein cof digidol byd-eang.
  • RLG and Preservation: Long-term Retention of Digital Research Materials Menter yr RLG ar gadwedigaeth ddigidol