Symud i'r prif gynnwys

Cyflwynodd Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 fframwaith yn galluogi adneuo cyhoeddiadau di-brint (electronig) yn y dyfodol. Yn 2007 cychwynnodd y Llyfrgell Brydeinig, y llyfrgelloedd adnau statudol eraill a chynrychiolwyr o gymdeithasau’r fasnach cyhoeddi ar gynllun adneuo gwirfoddol. Datblygu prosesau technegol ac ymarferol i gynnal adneuo e-gyfnodolion a chynnig mynediad cyfyngedig i’r cyfnodolion hynny oedd prif amcan y cynllun.

O ganlyniad i’r gwaith hwn, gall y Llyfrgell gynnig fynediad cyfyngedig i’r defnyddiau arlein a adneuwyd  yn ôl y cynllun. Cyfyngir mynediad i’r deunydd hwn i 2 beiriant cyhoeddus wedi eu lleoli yn yr Ystafell Ddarllen yn y Llyfrgell sydd ar gael at y pwrpas hwn yn unig. Ar y periannau hyn:

  • medrwch ddarllen cyhoeddiadau electronig ar-lein sydd wedi eu adneuo yn ôl y cynllun gwirfoddol
  • ni fedrwch gael mynediad at adnoddau eraill y Llyfrgell nac adnoddau allanol
  • ni chaniateir copio na lawrlwytho unrhyw ddeunydd


PWYSIG: ar ôl agor a chau erthygl neu e-lyfr, ni fydd modd ei ail-agor am 3 awr