Beth yw llawysgrif?
Cyfrol wedi ei hysgrifennu â llaw, neu gasgliad o ddogfennau wedi eu dwyn ynghyd i ffurfio cyfrol yw llawysgrif fel arfer. Mae llawysgrifau yn cael eu cadw ar wahân i gasgliadau archifau'r Llyfrgell, er bod y berthynas rhyngddynt yn agos.
Ysgrifennwyd llawysgrifau’r Llyfrgell ar bapur, memrwn, papyri, dail, llechi ac amryfal gyfryngau eraill. Mae gennym hefyd enghreifftiau o lawysgrifau mewn amryw o wahanol ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Lladin, Ffrangeg a Chernyweg.
Mae yn y Llyfrgell 2 brif ddosbarth o lawysgrifau, sef:
- Casgliadau Llawysgrifau cyffredinol
- Casgliadau Llawysgrif Arbennig:Peniarth, Cwrtmawr, Llanstephan