Symud i'r prif gynnwys

Pwy oedd Syr John Rhŷs?

Fe’i ganed ym Mhonterwyd, Ceredigion, a bu’n athro ysgol cyn graddio yn Rhydychen  yn 1869 a threulio cyfnod fel arolygwr ysgolion.  Ar sail ei gyhoeddiadau cynnar, fe’i penodwyd i Gadair Geltaidd newydd Prifysgol Rhydychen yn 1877.  Cyhoeddodd nifer o gyfrolau arloesol, gan gynnwys:

  • Celtic Britain (1879)
  • On the Origin and Growth of Religion, as Illustrated by Celtic Heathendom (1888)
  • Studies in the Arthurian Legend (1891)
  • The Outlines of the Phonology of Manx Gaelic (1894)
  • Celtic Folklore Welsh and Manx (1901)

Fe’i dyrchafwyd yn Brifathro Coleg Iesu, Rhydychen yn 1895, a bu’n Ddirprwy-Is-ganghellor Prifysgol Rhydychen am gyfnod. Bu farw yn Rhydychen ar 17 Rhagfyr 1915.

Casgliadau'n ymwneud â Syr John Rhŷs

Papurau Syr John Rhŷs

Cyflwynwyd Papurau Syr John Rhŷs i’r Llyfrgell Genedlaethol gan Syr Idris Foster yn 1978. Mae’r archif yn un sylweddol ei maint (dros 117 bocs), ac yn hynod gyfoethog o ran cynnwys. Fe’i catalogiwyd yn llawn yn 2011, a’i threfnu’n ddau brif ddosbarth:

Papurau John Rhŷs ei hunan, yn cynnwys:

  • cyfresi cyfoethog o lythyrau ato (gan gynnwys cyfresi hirfaith oddi wrth John Morris Jones, Egerton Phillimore, D. Silvan Evans a Whitley Stokes)
  • drafftiau o’i weithiau cyhoeddedig, yn ysgrifau a llyfrau
  • llyfrau nodiadau yn cynnwys ei ymchwil, a nodiadau maes
  • papurau’n ymwneud â’i yrfa broffesiynol a chyhoeddus

Papurau teuluol, yn eu mysg:

  • bapurau ei wraig ddawnus Elspeth
  • bapurau eu merched, Myvanwy ac Olwen (dechreuodd Myvanwy gasglu deunyddiau ar gyfer llunio cofiant i’w thad, ac mae’r nodiadau pwysig hynny ymysg ei phapurau)
  • rhai o bapurau tad Syr John, sef Hugh Rees, awdur cyfrol o gerddi Cymraeg a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau yn 1884
  • dyddiaduron morwyn y teulu, Elizabeth Hughes.

Ffotograffau a phenddelwau

Trosglwyddwyd nifer o ffotograffau trawiadol o’r casgliad papurau i Gasgliadau Ffotograffig y Llyfrgell.  Mae yn y Llyfrgell hefyd ddau bortread penddelw o Syr John: y naill o waith W. Goscombe John (ddaeth i’r Llyfrgell trwy ewyllys Syr John), a’r llall o waith Robert Lambert Gapper, a brynwyd yn 2015 ac a ddadorchuddiwyd ar achlysur y Canmlwyddiant.

Deunydd mewn casgliadau eraill yn y Llyfrgell Genedlaethol

Ceir llythyrau niferus oddi wrth John Rhŷs ym mhapurau personol nifer o unigolion eraill yn y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys casgliadau J. Gwenogvryn Evans, J. Glyn Davies, D. Silvan Evans a T.H. Parry-Williams.  Chwilier y catalog am fanylion pellach.

Llyfrgell Syr John Rhŷs

Yn dilyn ei farw yn 1915, trosglwyddwyd llyfrau Syr John o silffoedd Llety’r Prifathro yng Ngholeg Iesu Rhydychen i Brifysgol Aberystwyth.  Fe’i rhestrwyd, ac mae yn nifer ohonynt lyfrblat arbennig o waith yr arlunydd Kelt Edwards yn nodi eu bod yn rhan o gymynrodd John Rhŷs.  Fe’i cedwir bellach yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth.

Ceir yno hefyd gasgliad bychan o bapurau John Rhŷs, y mwyafrif, yn ôl pob tebyg, wedi eu tynnu o’r cyfrolau printiedig tros y blynyddoedd, er mwyn eu diogelu.

Ffynonellau yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen

Er mai yn Aberystwyth bellach y mae’r prif ffynonellau ar gyfer astudiaeth o fywyd a gwaith John Rhŷs, cedwir casgliad bychan o ddyddiaduron a phapurau ei ferched, Myvanwy ac Olwen, yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen.