Symud i'r prif gynnwys

Tra Môr yn Fur

24.09.18

Arddangosfa Newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn 2018 mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i ddarganfod glannau epic Cymru.
Bydd Blwyddyn y Môr yn dathlu’r arfordir, morluniau dramatig, a dyfrffyrdd bywiog cefn gwlad, a’r cyfan yn llawn o fywyd, antur a chwedl. Gydag arfordir bron i chwe chan milltir o hyd, does ryfedd fod gan Gymru berthynas glos â’r môr. Mae’r dyfroedd wedi siapio nid yn unig arfordir Cymru, ond hefyd hanes a dychymyg y Cymry.

Mewn partneriaeth gyffrous, bydd arddangosfa Tra Môr yn Fur (29 Medi – 23 Chwefror 2019) yn dathlu perthynas Cymru â’r môr a cheisio dehongli  sut y bu iddo ddylanwadu  ar ein hanes a’n diwylliant,  gan ddefnyddio  hanesion, straeon a delweddau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Cymru i wneud hynny.

Ar hyd y canrifoedd, mae’r môr wedi bod yn ysbrydoliaeth i nifer gyda nifer o’r  Cymry wedi darlunio’r môr mewn gair, llun a chân, ac yn parhau i wneud hynny hyd heddiw.  Yn yr arddagnofsfa hon cawn fwynhau cynnyrch  creadigol artistiaid a llenorion  fel Kyffin Williams, John Dillwyn Llewelyn, J. Glyn Davies a Dylan Thomas.  

Daw hanes y diwydiant morwrol yn fyw wrth i ni arddangos gwrthychau unigryw sydd ar fenthyg o Amgueddfa Cymru, ynghyd â ffotograffau hanesyddol trawiadol o gasgliad Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.  

Ond hefyd y mae i’r môr ei ochr dywyll, a daw hyn i’r amlwg wrth i ni edrych ar hanes  llongddrylliadau’r gorffennol, megis  trychineb y Lusitania, a dod wyneb yn wyneb â rhai o smyglwyr a môr-ladron enwocaf Cymru.  

Mae modd dadlau nad  yr hydref a’r gaeaf yw’r tymhorau gorau i fwynhau glan y môr, ond wrth arddangos gweithiau celf a ffotograffau o’r casgliad graffeg, ynghyd â chlipiau ffilm o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, down â naws a mwynhad glan y môr yma i’r Llyfrgell.

Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae hanes perthynas Cymru a’r môr yn un eang a hynod ddiddorol, ac mae’n bleser gennym gydweithio gyda Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa Cymru i greu arddangosfa hwyliog sy’n adrodd yr hanes hwn.  Gobeithiaf y bydd ymwelwyr yma yng Nghymru, a thu hwnt, yn achub ar y cyfle hwn i weld eitemau o wahanol gasgliadau cenedlaethol o dan un to, ac i ddysgu mwy am berthynas unigryw Cymru a’r môr.“

I gyd-fynd â’r arddangosfa, mae Gwasanaeth addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi creu gweithdy newydd, am ddim wedi’i seilio ar hanes a pherthynas Cymru â’r môr.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Rhagor o arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru;