Llawysgrifau bardd rhyfel
21.09.18
Yn ddiweddar, gyda chymorth hael Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn ocsiwn yn Llundain, nifer o bapurau pwysig yn ymwenud â'r bardd, yr awdur a'r milwr Edward Thomas (1878-1917). Bu’r eitemau i gyd ar un adeg yn eiddo’i gyfaill, y cyfreithiwr o Gaerloyw, Jack Haines (1875-1960).
Heb os, yr eitem pwysicaf yw’r llyfr nodiadau sy'n cynnwys drafftiau llawysgrifol lluosog o ddau o'i gerddi cynharaf, 'The Mountain Chapel' a 'Birds' Nests ', dyddiedig 17 a 18 Rhagfyr 1914, dim ond bythefnos ar ôl i Thomas ddechrau ysgrifennu barddoniaeth. Mae'r rhain yn arwyddocaol gan eu bod ymhlith llond dwrn yn unig o'i gerddi nad oeddynt gyda copiau neu ddrafftiau ar gael o'r blaen. Mae nhw hefyd yn rhoi cyfle i ymchwilwyr am y tro cyntaf gael golwg manylach ar ddatblygiad Thomas fel bardd.
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys drafft o gerdd ychydig yn ddiweddarach, 'House and Man', sydd ymhlith ei gerddi cyntaf i'w cyhoeddi, yn y cylchgrawn Root and Branch (1915).
Ymhlith y papurau eraill y mae adolygiad llawysgrifol wedi’i ddyddio1903, na chafodd ei gyhoeddi; dau lythyr oddi wrth Thomas at Jack Haines; a llythyr arwyddocaol at Haines gan weddw Edward Thomas, Helen, sy’n cynnwys disgrifiad onest o'r berthynas rhyngddi hi ag Edward, a'i gyfaill agos, y bardd Robert Frost.
Meddai Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae hwn yn bryniant arwyddocaol ac yn ychwanegiad pwysig i’n archif Edward Thomas. Unwaith eto, rydym yn hynod ddiolchgar i ‘Gyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol am eu haelioni a'u cefnogaeth a’n galluogodd i brynu’r papurau "
Ganwyd a magwyd Edward Thomas yn Llundain, ar aelwyd oedd yn Gymreig yn bennaf. Yr oedd eisoes wedi ennill enw iddo'i hun fel awdur a beirniad pan, yn gynnar ym mis Rhagfyr 1914 a gydag anogaeth Robert Frost, aeth ati o ddifrif am y tro cyntaf i ysgrifennu barddoniaeth. Cafodd bron bob un o'r cant a pedair a deugain o gerddi a briodolwyd iddo eu hysgrifennu yn ystod y ddwy flynedd ddilynol, sef y cyfnod y cafodd ei alw i ymladd yn y Rhyfel Mawr. Lladdwyd Thomas gan daflegryn ar 9 Ebrill 1917, yn ystod Brwydr Arras.
Mae'r llawysgrifau yn ychwanegiad gwerthfawr at gasgliad arwyddocaol y Llyfrgell Genedlaethol o lawysgrifau a phapurau Edward Thomas, sy'n cynnwys drafftiau llawysgrif llawer o'i gerddi, gohebiaeth â'i wraig ac eraill, a'i ddyddiaduron, yn eu plith ei ddyddiadur Rhyfel 1917.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk