10 rheswm dros ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros y Pasg
- Mae'r Llyfrgell yn gartref i Oriel Gregynog - yr oriel gelf fwyaf yng Nghymru - ac wedi cynnal arddangosfeydd gan rai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru. Ar hyn o’r bryd – gwaith y ffotograffydd Pete Davis sydd ar y muriau. Arddangosfa ôl-syllol o bwys o ffotograffau yn rhychwantu 60 mlynedd, ynghyd â gwaith newydd sy’n amlygu diddordeb oes y ffotograffydd gydag agweddau penodol o’r byd o’n cwmpas. Mae’r arddangosfa ymlaen nes y 10fed o Fehefin.
- Mae'r adeilad rhestredig Gradd II a’r gerddi, wirioneddol yn safle bendigedig gyda golygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion.
- Mae ein rhaglen ddigwyddiadau yn cael ei chyhoeddi dair gwaith y flwyddyn ac yn cynnwys gwybodaeth am arddangosfeydd, sgyrsiau a chyflwyniadau y Llyfrgell, a gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr. Beth am gymryd rhan yn ein Gweithdy Ffotograffiaeth ar yr 20fed o Ebrill rhwng 1.00 p.m a 4.00 p.m? Cyfle gwych i ymarfer, gan gymryd ysbrydoliaeth o adeilad y Llyfrgell.
- Dewch i fwynhau ein brechdanau amrywiol, panini a tatws trwy’i crwyn, cawl cartref a phrydau’r dydd yng Nghaffi Pen Dinas. Mae diodydd poeth ac oer ar gael drwy’r dydd a beth am flasu ein teisennau cartref godigog? Os yw'r haul yn tywynnu, prynwch frechdanau a chael picnic ar dir y Llyfrgell.
- Ewch ar daith 'Tu ôl i'r Llenni' Beth am daith 'Tu ôl i'r Llenni' sy'n addas ar gyfer pob oedran. Bob dydd Llun am 11.00am Mercher am 2.15pm. Archebwch docyn ar-lein digwyddiadau.llyfrgell.cymru neu drwy ffonio siop y Llyfrgell ar 01970 632548. Pris tocyn yn cynnwys paned o de neu goffi am ddim yng Nghaffi Pen Dinas!
- Mwynhewch ychydig o siopa Mae'r siop yn gwerthu nwyddau o ansawdd uchel gan artistiaid lleol ac o statws cenedlaethol megis Mari Thomas, sydd wedi ennill nifer o wobrau dylunio. Mae gwaith Lizzie Spikes a Valeriané Leblond yn ymddangos yn rheolaidd ar silffoedd y siop
- Darganfyddwch y ‘Greal Sanctaidd’. Y darn bregus hwn o bren yw’r cyfan sy’n weddill o ddysgl masarn hynafol a adnabyddir fel Cwpan Nanteos.
- Cyfle i ddod wyneb yn wyneb gydag Arwyr! Cymru o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol gan gynnwys, tîm pêl droed Cymru, Ray Gravell a Dafydd Iwan.
- Gweld Y Llyfr Lleiaf yn arddangosfa Clawr i Glawr. Mae’n mesur llai na 1mm x 1mm x 1mm.
- Os am lonydd ar ôl bwyta’r holl wyau Pasg – beth am ymlacio gyda llyfr yn un o’n stafelloedd darllen.......
Mae gan y Llyfrgell ddigon o le parcio ac mae’n daith gerdded ddeng munud o ganol y dref neu, fel arall gallwch deithio ar Bws 03 sy’n dilyn llwybr cylchol o ganol y dref, gan alw yn y Llyfrgell Genedlaethol a campws Prifysgol Aberystwyth.
Gwnewch Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o'ch cyrchfannau yn ystod Blwyddyn Chwedlau 2017.
Gwybodaeth gyffredinol:
Oriau agor
Llun - Gwener 9:00-6:00
Dydd Sadwrn 9:00-5:00
Arddangosfeydd
Llun - Sadwrn 9:30-5:00
Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
Llun - Gwener 10:00-5:00
Caffi Pen Dinas
Llun - Gwener 9:00-5:00
Dydd Sadwrn 10:00-4:00
Siop y Llyfrgell
Llun - Sadwrn 9:00-5:00
Trefniadau’r Pasg 2017
14 Ebrill – Dydd Gwener y Groglith – ar gau
15 Ebrill – Dydd Sadwrn y Pasg – bydd yr arddangosfeydd a’r siop ar agor rhwng 9.30 a 5.00 o’r gloch, gyda Chaffi Pen Dinas ar agor rhwng 10.00 a 4.00 o’r gloch - ond bydd yr Ystafelloedd Darllen ar gau.
16 Ebrill – Dydd Sul y Pasg – ar gau
17 Ebrill – Dydd Llun y Pasg – yr un trefniadau a dydd Sadwrn y Pasg
Dangosir Ffilm Gogwana am 1.00 p.m. ar Ddydd Llun y Pasg.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk