12 rheswm i ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros y Pasg
- Mae'r Llyfrgell yn gartref i Oriel Gregynog - yr oriel gelf fwyaf yng Nghymru - ac wedi cynnal arddangosfeydd gan rai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru, megis Shani Rhys James. Bydd yr oriel yn dangos gwaith arddangosfa deithiol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru - National Museum Wales tan 28 Mai, 2016: ‘Ysbrydoli’r Ymdrech: Printiau’r Rhyfel Byd Cyntaf’ sy'n cynnwys cyfraniadau gan artistiaid Prydeinig-adnabyddus megis Augustus John, Frank Brangwyn, William Rothenstein a CRW Nevinson.
- Mae'r adeilad rhestredig Gradd II a’r gerddi, wirioneddol yn safle bendigedig gyda golygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion. Mae'r Llyfrgell yn lyfrgell adnau cyfreithiol cenedlaethol Cymru, yn dal 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, archifau, portreadau, paentiadau, printiau topograffig, llawysgrifau, mapiau a delweddau ffotograffig. Gyda dros 30,000 o lawysgrifau prin, bu i gasgliad Llawysgrifau Peniarth (ym mis Gorffennaf 2010) gael ei gynnwys ar Gofrestr Cof y Byd UNESCO y DU; gan roi cydnabyddiaeth fyd-eang i’r casgliad.
- Gwrandewch ar y seiniau Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Gwrandewch ar gerddoriaeth Cymru a gwylio ffilmiau a chartwnau clasurol plant yn awditoriwm y Drwm.
- Mae rhaglen o ddigwyddiadau yn cael ei chyhoeddi bedair gwaith y flwyddyn yn cynnwys gwybodaeth am arddangosfeydd, sgyrsiau a chyflwyniadau y Llyfrgell, a gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr. Beth am ddarganfod mwy am ‘Hunting Glyndŵr’ gyda Mike Parker (13 Ebrill) neu fwynhau noson gydag arbenigwr Antiques Roadshow BBC; Marc Allum (29 Ebrill). Bydd angen tocyn ar gyfer rhan fwyaf o'r digwyddiadau hyn wrth fynd ar-lein neu drwy ffonio(manylion isod).
- Dathlu canmlwyddiant Roald Dahl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dathlwch ganmlwyddiant un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru, Roald Dahl. Ar gyfer y gynulleidfa iau byddwn yn llwyfannu sioe ar Dydd Gwener 1 Ebrill wedi ei hanelu at blant rhwng 7 - 11: ‘Roald Dahl - Yr Awdur Mawr Mwyn’ - Sioe un dyn a fydd yn cynnig cyfle i fod yn rhan o fyd ansbaredigaethus Roald Dahl wrth iddo’n tywys drwy ei blentyndod a’n cyflwyno i rai o’i gymeriadau enwocaf! Bydd dau berfformiad: un yn y Gymraeg am 10:00am a'r llall yn Saesneg am 2:00pm . Mynediad trwy docyn am £ 5 y pen i gynnwys diod a chacen.
- Penwythnos Cer i Greu. Er mwyn cefnogi ymgyrch Cyngor Celfyddydau Cymru ‘Cer i Greu’ mae'r Llyfrgell wedi trefnu gweithdy celf print leino gydag Elin Vaughan Crowley; artist print a thecstilau o Fro Ddyfi, Canolbarth Cymru. Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal ar brynhawn dydd Sadwrn, 2, Ebrill 1:30 - 4.30pm am gost o £ 8.00 y pen. Mae'n addas ar gyfer plant 9 - 12 oed. Nifer cyfyngedig o docynnau ar gael o siop y Llyfrgell.
- Dewch ar antur i Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dewch ar antur o gwmpas arddangosfeydd y Llyfrgell gyda chymorth ein llyfr gweithgareddau newydd sbon - llawn gweithgareddau, gemau a phosau cyffrous. Casglwch eich copi am ddim yn y dderbynfa. Beth am greu eich antur eich hun yn yr Hafan, ein gofod ar gyfer teuluoedd a phlant? Creu eich stribed comig eich hun, ysgrifennu stori antur a bod yn greadigol gyda gweithgareddau yn seiliedig ar antur ar dir, yn yr awyr, o dan y môr ac yn y gofod. Dewch i ymweld â arddangosfa ‘Antur ar bob tudalen’ (3 Mawrth-Chwefror. 2017), arddangosfa sy'n edrych ar antur mewn llenyddiaeth Gymraeg ac Eingl-Gymreig. Cyfle i ail fyw atgofion hapus o blentyndod ac annog plant i fynd ar eu hantur eu hunain.
- Yn galw Rainbows, Brownies a Guides, ddoe a heddiw. 'Girlguiding Cymru: Gwthio Ffiniau' (23 Ebrill - 3 Medi) yn olrhain hanes Girlguiding Cymru ers ei sefydlu yn 1910 hyd heddiw. Edrychwch ar sut mae Geidio wedi gwthio ffiniau ac effeithio ar fywydau merched dros y blynyddoedd.
- Dewch i ddarganfod calon diwylliant Cymru. Dadorchuddiwch drysorau Cymru mewn arddangosfa newydd yn ardal Peniarth. Cyfle i weld Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif gynharaf sydd wedi goroesi ‘n ysgrifenedig yn Gymraeg yn unig. Mae Cymru yn wlad y gân. Beth am ddysgu mwy am y stori y tu ôl i'r Anthem Genedlaethol a dysgu sut i’w chanu hefyd! Cwrdd â Mam Cymru, Catrin o’r Berain, a darganfod mwy am hanes eich teulu.
- Bwyta cacennau cri a bara brith yng Nghaffi Pendinas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Profwch fwyd Cymreig lleol wedi’i goginio yn y bwyty, gan gynnwys cawl, cacennau cri a bara brith. Os yw'r haul yn tywynnu, prynwch frechdanau a chael picnic ar dir y Llyfrgell.
- Ewch ar daith 'Tu ôl i'r Llenni'. Beth am daith 'Tu ôl i'r Llenni' yn rhad ac am ddim sy'n addas ar gyfer pob oedran. Bob dydd Llun am 11.00am Mercher am 2.15pm. Archebwch ar-lein yn www.llyfrgell.cymru/drwm neu drwy ffonio siop y Llyfrgell.
- Mwynhewch ychydig o siopa. Mae'r siop yn gwerthu nwyddau o ansawdd uchel gan artistiaid lleol ac o statws cenedlaethol megis Mari Thomas, sydd wedi ennill nifer o wobrau dylunio. Mae gwaith Lizzie Spikes a Valeriané Leblond yn ymddangos yn rheolaidd ar silffoedd y siop. Gwaith sy'n dangos eu cariad at dirwedd lleol Ceredigion a'i swyn.
Mae gan y Llyfrgell ddigon o le parcio ac mae’n daith gerdded ddeng munud o ganol y dref neu, fel arall gallwch deithio ar Bws 03 sy’n dilyn llwybr cylchol o ganol y dref, gan alw yn y Llyfrgell Genedlaethol a campws Prifysgol Aberystwyth.
Gwnewch Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o'ch cyrchfannau yn ystod Blwyddyn o Antur 2016.
Gwybodaeth gyffredinol:
Oriau agor
Llun - Gwener 9:00-6:00
Dydd Sadwrn 9:00-5:00
Arddangosfeydd
Llun - Sadwrn 9:30-5:00
Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
Llun - Gwener 10:00-5:00
Caffi Pen Dinas
Llun - Gwener 9:30-4:30
Dydd Sadwrn 10:00-4:00
Siop y Llyfrgell
Llun - Sadwrn 9:30-5:00
Trefniadau’r Pasg
- 25 Mawrth – Dydd Gwener y Groglith – ar gau
- 26 Mawrth – Dydd Sadwrn y Pasg – bydd yr arddangosfeydd a'r siop ar agor rhwng 9.30 a 5.00 o’r gloch gyda Chaffi Pen Dinas ar agor rhwng 10.00 a 4.00 o'r gloch ond bydd yr Ystafelloedd Darllen ar gau
- 27 Mawrth – Dydd Sul y Pasg – ar gau
- 28 Mawrth – Dydd Llun y Pasg – yr un trefniadau a dydd Sadwrn y Pasg
Cydnabyddiaeth i luniau:
Keith Morris
Artswebwales.com