Symud i'r prif gynnwys

Edrych yn ôl ac edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous, llawn her…

Bore heddiw, ac er mwyn nodi pen-blwydd cyntaf y tân dorrodd allan yn y Llyfrgell ar 26 Ebrill 2013, bydd y Prif Weithredwr a Llyfrgellydd yn annerch holl staff y Llyfrgell er mwyn diolch iddynt am eu cefnogaeth yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf heriol yn hanes hir y Llyfrgell.  Bydd hwn hefyd yn gyfle i Aled Gruffydd Jones i lansio’r Cynllun Strategol newydd a phwysleisio agweddau hynod gadarnhaol datblygiadau’r dyfodol a’r rôl bwysig fydd gan y Llyfrgell i’w chwarae ym mywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y genedl.

Meddai Aled Gruffydd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:

“Mae heddiw’n gyfle nid yn unig i edrych yn ôl, ond mae’n gyfle hefyd i edrych ymlaen at y dyfodol a lansio’r Cynllun Strategol ar gyfer y tair blynedd nesaf yma. Ein gweledigaeth yw cysylltu pobl Cymru, ble bynnag y maent, â gwybodaeth sy’n bwysig ar gyfer pob agwedd o’u bywydau. Rydym yn credu fod gwybodaeth yn hanfod yn natblygiad, ymdrech ac iechyd a lles yr unigolyn”.

Aeth y Prif Weithredwr ymlaen i ddweud:

“Ers ei sefydlu yn 1907 y mae’r Llyfrgell wedi datblygu a chynnal casgliadau cenedlaethol sy’n berthnasol i Gymru a’i phobl a chenhedloedd Celtaidd eraill.  Y brif her a wynebwn yn ystod y tair blynedd nesaf fydd dod â chynifer o bobl â phosibl i ymwneud â’n casgliadau, a gwneud hynny mewn llawer dull a modd newydd ar gyfer dibenion amrywiol”.

Ail-leoli Strategol

Mae’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd yn mynnu fod y Cynllun Strategol newydd yn arwydd o ail-leoli strategol arwyddocaol ac mae’n dod ar adeg bwysig yn hanes hir a nodedig Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Nid yn unig y bydd ‘Gwybodaeth i Bawb’ yn galluogi’r Llyfrgell i barhau i warchod etifeddiaeth ddogfennol gyffyrddadwy’r genedl yn y casgliadau, ond hefyd i wneud mwy o ddefnydd o dechnolegau digidol i ryddhau cynnwys newydd ar-lein a darparu mynediad ychwanegol i adnoddau. Tra bydd y Llyfrgell yn parhau’n driw i’w hamcanion gwreiddiol, mae’r Cynllun Strategol yn ymdrin â materion allweddol yn ymwneud ag ehangu hygyrchedd ac ymrwymiad cyhoeddus, gwella ei sylfaen sgiliau a’i rôl o arweinyddiaeth mewn cadwraeth a llythrennedd gwybodaeth.

Meddai Aled Gruffydd Jones:

“I’r perwyl hwn, mae’r Cynllun Strategol yn sefydlu cysylltiad agosach fyth rhwng ein casgliadau hynod gyfoethog, amrywiol a chynyddol, a’r defnydd cymdeithasol creadigol y gellir ei wneud ohonynt. Gan fod creadigrwydd, arloesedd, gwybodaeth a chynaliadwyedd yn allweddi i adfywio economaidd a chymdeithasol, bydd adnoddau corfforol a deallusol y Llyfrgell Genedlaethol yn cael eu llywio fel y gall wneud gwir wahaniaeth mesuradwy a manteisiol i fywydau pobl Cymru”.

Er mwyn ein pobl

  • Er mwyn gallu gwireddu’r Cynllun Strategol, rhaid i’r Llyfrgell gynnal a datblygu partneriaethau a systemau cydweithio. Byddant yn galluogi’r sefydliad i gyfoethogi effaith arfaethedig yr hyn y bydd yn ei wneud a’i gynorthwyo i gysylltu’n fwy effeithiol â’i defnyddwyr. Mae hwn yn amser cyffrous i sefydliadau gwybodaeth yng Nghymru. Mae ymlediad gwybodaeth a data ymchwil ar gyflymder y tu hwnt i ddychymyg blaenorol ac amlder llwyfannau digidol, adnoddau a’r defnydd a wneir ohonynt wedi cyfuno i wneud democrateiddio gwybodaeth yn bosibl. Ar yr un pryd, mae angen cynyddol i gyrff a gyllidir yn gyhoeddus ddangos effeithiau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd eu gweithgareddau.
  • Bydd y Llyfrgell yn parhau â’i hymrwymiad oesol i ddatblygu mentrau digidol cenedlaethol megis Casgliad y Werin, Cynefin, HWB a Phrosiect Cymraeg y Rhyfel Byd Cyntaf, a chefnogi rhaglenni digidol arloesol, yn cynnwys ein cyfraniad ni i’r dyniaethau digidol ar lefel Ewropeaidd a Rhyngwladol. Ar yr un pryd, ac yng ngoleuni datganoli, dylem gychwyn ar drafodaeth genedlaethol am ddyfodol ein harchifau a’n cofnodion hanesyddol, yn unol â deddfwriaeth bresennol Cofnodion Cyhoeddus, ac arwain datblygiad y dyniaethau digidol yng Nghymru.
  • Bydd Cynllun Strategol ‘Gwybodaeth i Bawb’ ar gyfer 2014-17 yn ceisio gosod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yng nghanol cynllunio gwybodaeth yng Nghymru. Erbyn 2017 bydd y Llyfrgell wedi llywio ei sgiliau a’i chasgliadau i wella ei darpariaeth ac i ehangu ymhellach ei hamrediad o ddefnyddwyr. Bydd cynnydd y Cynllun Strategol yn cael ei fesur yn erbyn targedau a gytunir gan Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell a CyMAL.

Os oes un gair sy’n crynhoi uchelgais y Cynllun Strategol hwn, y gair hwnnw yw ‘effaith’. Bydd y Llyfrgell Genedlaethol, fel sefydliad cenedlaethol, yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i ddiwylliant, i gymdeithas ac i economi Cymru. Byddwn yn ymatebol i’n defnyddwyr, i’r rhai presennol a rhai’r dyfodol. Byddwn yn ysbrydoli ein dysgwyr, o bob oed, ac yn cefnogi ein sector busnes ac yn hyrwyddo delwedd Cymru dramor. A byddwn yn ymdrechu’n daer i sicrhau y bydd mynediad at gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fwyfwy ar gael i bob cartref yng Nghymru.

Fel hyn, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ail-leoli ei hun i ddarparu gwybodaeth i bawb wrth aros yn driw i’w phwrpas a’i gwerthoedd parhaus.
Rhai o brif amcanion y Cynllun Strategol:

  1. Ymestyn presenoldeb ar draws Cymru
  2. Datblygu’r Gwasanaeth Cadwraeth a Chadwedigaeth Ddigidol ar gyfer Prosiect Etifeddiaeth Ddogfennol Cymru
  3. Datblygu Rhaglen Partneriaeth Gymunedol gyda phartneriaid yng Nghymru
  4. Arwain trafodaeth genedlaethol am y potensial i sefydlu Archif Genedlaethol i Gymru

Llyfrgell wych, a mwy…

Ers ei chychwyn y mae’r Llyfrgell yn fwy na’r hyn a gydnabyddir yn gonfensiynol fel ‘llyfrgell’, sef casgliad o weithiau printiedig. Yn ychwanegol i’w chasgliad o 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion (yn cynnwys newyddiaduron a chylchgronau), gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi dod ati oherwydd ei bod hi’n llyfrgell adnau cyfreithiol - yr unig un yng Nghymru - mae’r Llyfrgell yn cadw a rhoi mynediad i amrywiaeth cynyddol o ddeunyddiau, megis:

  • Tua 1,900 medr ciwbig o ddeunydd archifol;
  • Dros 60,000 o baentiadau a phrintiau topograffig Cymreig, sef y casgliad mwyaf yn y byd;
  • Casgliad portreadau mwyaf Cymru (tua 15,000 mil ohonynt);
  • Tua 40,000 o lawysgrifau;
  • Casgliad helaethaf o ddelweddau ffotograffig yng Nghymru (tua 1,000,000);
  • Casgliad cartograffeg fwyaf Cymru (tua 1,000,000 o fapiau);
  • Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n cynnwys 5.5 miliwn o droedfeddi o ffilm, rhagor na 250,000 o oriau o fideo a thros 200,000 awr o recordiau sain.

Mae casgliadau digidol y Llyfrgell yn ffurfio sylfaen llyfrgell ddigidol gyhoeddus i Gymru gan fod y
deunyddiau hyn ar gael i bawb ledled y byd yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys:

  • 1.1 miliwn o dudalennau papurau newydd
  • 1.3 miliwn o dudalennau cylchgronau
  • 1.1 miliwn o dudalennau archifau
  • 200,000 o ffotograffau
  • 50,000 o gasgliadau graffig
  • 10,000 o dudalennau llawysgrifau
  • 400,000 o oriau o ddelweddau symudol a sain
  • 7,000,000 o droedfeddi o ffilm
  • 200,000 o eitemau o archif ITV Cymru
  • 1,500 o wefannau

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk