Llawysgrif Boston arlein
Y llynedd, llwyddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth i brynu Llawysgrif Boston o Gyfraith Hywel Dda yn Sotheby’s, Llundain. Bellach, mae’r Llyfrgell wedi cyhoeddi cynnwys y gyfrol hon – sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg – ar ei gwefan.
Ychydig iawn o bobl a gafodd y cyfle i weld y llawysgrif hon pan oedd ym meddiant Cymdeithas Hanesyddol Massachusetts yn yr Unol Daleithiau. Roedd ei chyflwr wedi dirywio ers y 18fed ganrif, a phan benderfynodd ei pherchnogion Americanaidd ei gwerthu, roedd perygl y byddai’n cael ei phrynu gan gasglwr preifat, neu ei thorri’n ddarnau ar gyfer casglwyr.
Gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ynghyd â Chyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, llwyddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru i brynu’r llawysgrif werthfawr hon mewn arwerthiant yng Ngorffennaf 2012 am £541,250. Nawr, ddeng mis yn ddiweddarach, ac yn dilyn cyfnod llafurus a gofalus o ddadrwymo a thrwsio, mae holl dudalennau’r llawysgrif wedi eu cyhoeddi ar-lein ar wefan y Llyfrgell, ar gyfer cynulleidfa newydd.
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:
'Mae'r llawysgrif hon yn un o drysorau mwyaf Cymru ac rwyf wrth fy modd i'w gweld yn ôl adref yn ddiogel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Wedi bod yn ddigon ffodus i weld y llawysgrif drostaf fy hun, yr wyf yn falch bod ei bod wedi ei ddigido fel y gall mwy o bobl weld drostynt eu hunain pam fod y ddogfen ganoloesol hon mor arbennig ac unigryw '.
Ychwanegodd Llyfrgellydd Llawysgrifau’r Llyfrgell, Dr Maredudd ap Huw:
‘Yn raddol, yn ystod misoedd o astudio gofalus, mae stori’r llawysgrif wedi dod i’r amlwg. Gellir gweld sut yr ychwanegwyd ati, a’i haddasu yn ystod y cyfnod canoloesol, wrth iddi gael ei defnyddio wrth weinyddu cyfraith. Mae gwell gobaith o hyn allan i fyfyrwyr astudio cynnwys y gyfrol a’i hanes.’
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y broses o drwsio a diogelu’r gyfrol, dywedodd Aled Gruffydd Jones, Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Rydym bellach, trwy dechnegau traddodiadol a modern, wedi sicrhau parhad hir-dymor y llawysgrif werthfawr hon. Llawenhawn y bydd modd i ymwelwyr â’n gwefan ei mwynhau, a gwerthfawrogi un o drysorau anghofiedig Cymru.’
I gyd-fynd â’r delweddau digidol, ceir cyflwyniad i gefndir y llawysgrif, ac mae disgrifiad manwl o’r gyfrol hefyd ar gael ar gatalog ar-lein y Llyfrgell. Yn ystod yr haf hwn, bydd y Llyfrgell yn creu ffacsimilïau o’r gyfrol i’w defnyddio mewn gwaith hyrwyddo ac addysg.
Bydd Llawysgrif Boston ar ei newydd wedd, wedi ei thrwsio a’i hail-rwymo, yn ymddangos am y tro cyntaf yn arddangosfa'r 4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 12 Hydref.
Gwybodaeth Bellach
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632 534 neu post@llgc.org.uk