Symud i'r prif gynnwys

Pam ydych chi angen fy ngwybodaeth bersonol?

At bwrpas rhoi caniatâd a chadw cofnod o’r defnydd a wneir o gamerâu digidol yn yr ystafelloedd darllen.

Ar ba sail fyddwch chi’n prosesu’r data?

Cytundebol, ar sail y ffaith fod eu hangen i brosesu taliad.

A fydd unrhyw un arall yn derbyn copi o’r data?

Ni fyddwn yn rhannu eich data ag unrhyw un y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Am ba hyd y byddwch yn cadw'r data personol?

Hyd at ddiwedd y flwyddyn galendr + 6 blynedd.

Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru?

Ni allwn roi caniatâd i chi ddefnyddio eich camera digidol yn yr ystafelloedd darllen.

Pwy fydd yn gyfrifol am reoli'r data rwy'n ei ddarparu?

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ble mae modd cael hyd i fwy o wybodaeth?

Ceir gwybodaeth bellach am ein polisï gwarchod data ar ein tudalen Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data.