Symud i'r prif gynnwys

Pwy sydd yn y Bywgraffiadur?

Dysgwch mwy am y prosiect ac am ba fath o wybodaeth y gallwch chi ddisgwyl ei chael yn erthyglau bywgraffyddol y Bywgraffiadur.

Sut alla i newid iaith y safle rhwng y Gymraeg a'r Saesneg?

Cewch newid yr iaith rhwng y Gymraeg a'r Saesneg trwy glicio ar 'Cymraeg' neu 'English' yn y gornel uchaf ar y dde ar unrhyw dudalen.

D.S. Mae hi'n bosibl i chi golli canlyniadau eich chwiliad os newidiwch iaith y rhyngwyneb yn ystod y chwiliad.

Sut alla i chwilio'r Bywgraffiadur?

Mae yna dair ffordd i chwilio:

  1. trwy ddefnyddio rhestr A-Z o erthyglau;
  2. trwy ddefnyddio'r prif flwch 'Chwilio' ar y dudalen Cartref; neu,
  3. trwy ddefnyddio'r blwch 'Chwiliad testun rhydd'.

1. Rhestr A-Z o erthyglau

Rhestrir erthyglau yn nhrefn yr wyddor yn y llefydd canlynol:

  • o dan 'Rhestr Enwau' yng nghanol y dudalen Cartref
  • pan gliciwch chi ar 'Pori' ar ben unrhyw dudalen

Cliciwch ar lythyren i weld rhestr o erthyglau ar gyfer enwau a ffugenwau personol sy'n dechrau gyda'r llythyren honno.

Cliciwch ar enw sydd wedi cael ei oleuo er mwyn agor erthygl unigol.

Nid yw'n bosibl gweld canlyniadau ar gyfer mwy nag un llythyren o'r wyddor ar y tro.

Am resymau technegol, rhestrir erthyglau yn nhrefn yr wyddor Saesneg yn hytrach na'r wyddor Gymraeg.

2. Y prif flwch ‘Chwilio’ ar y dudalen Cartref

Bydd hwn yn chwilio am enwau personol mewn penawdau erthyglau a hefyd hefyd am unrhyw ddata ym mhrif gorff erthyglau, felly cewch chwilio am enwau personol, enwau lleoedd neu unrhyw derm arall sy'n ymddangos yn y data.

I gychwyn eich chwiliad, teipiwch y term 'rydych chi am chwilio amdano yn y blwch, cliciwch ar eicon y chwyddwydr ar ochr dde'r blwch (neu bwyswch allwedd 'Return' ar eich byseddfwrdd), a bydd eich canlyniadau yn ymddangos.

3. Blwch ‘Chwiliad testun rhydd’

Mae'r blwch 'Chwiliad testun rhydd' ar ben pob tudalen ar y safle, ar yr ochr dde, felly nid oes angen dychwelyd i'r dudalen Cartref i ddechrau chwiliad newydd.

Bydd hwn yn chwilio am enwau personol mewn penawdau erthyglau a hefyd hefyd am unrhyw ddata ym mhrif gorff erthyglau, felly cewch chwilio am enwau personol, enwau lleoedd neu unrhyw derm arall sy'n ymddangos yn y data.

I gychwyn eich chwiliad, teipiwch y term 'rydych chi am chwilio amdano yn y blwch, cliciwch ar eicon y chwyddwydr ar ochr dde'r blwch (neu bwyswch allwedd 'Return' ar eich byseddfwrdd), a bydd eich canlyniadau yn ymddangos.

Pwyntiau eraill i'w nodi am chwilio:

  • Nid yw'r ffwythiant chwilio yn ddibynnol ar ddefnyddio priflythrennau neu lythrennau bychain.
  • Cewch ddefnyddio seren fel nod chwilio; er enghraifft, bydd jon* yn cynhyrchu canlyniadau sy'n cynnwys 'Jones'.
  • Ni chefnogir chwilio Boolean (e.e. A / NEU / NID).
  • Os newidiwch chi iaith y rhyngwyneb rhwng Gymraeg a Saesneg yn ystod chwiliad, mae hi'n bosibl i chi golli eich canlyniadau chwilio.

Sut mae fy nghanlyniadau chwilio'n cael eu harddangos?

Bydd eich canlyniadau chwilio wedi eu trefnu yn ôl cyfenw neu ffugenw, gyda phob canlyniad yn dangos darn o'r erthyglau, y pennawd fel arfer. Lle canfyddir canlyniad o fewn erthygl ond nid yn y pennawd, dangosir darn perthnasol yr erthygl.

Pan geir nifer fawr o ganlyniadau chwilio, cânt eu harddangos dros nifer o dudalennau. I symud rhwng y tudalennau yma, ewch i waelod y dudalen a defnyddiwch y saeth/au tudalen nesaf neu'r dudalen flaenorol, neu dewiswch rhif y dudalen sydd o ddiddordeb.

Perthnasedd canlyniadau chwilio

Trefnir canlyniadau yn ôl perthnasedd, sy'n golygu y rhoddir pwys i nifer y canlyniadau ymhob erthygl, a hefyd pwysigrwydd enwau sy'n ymddangos mewn penawdau dros bwysigrwydd y rhai sydd ond yn ymddangos yng nghorff erthyglau. Beth bynnag, mae'r ystyriaethau hyn yn gallu gwrthdaro â'i gilydd, a mae sawl enw yn ymddangos fel cyfenw a hefyd fel enw blaen (a hefyd mewn cyfenwau nad ydynt yn derfynol, a mewn cyfenwau dwbl), felly mae hi'n bosibl na fydd y canlyniadau yn cael eu blaenoriaethu fel y byddwch chi'n disgwyl. Gobeithiwn i wella hyn yn y dyfodol.

I weld erthygl, cliciwch ar y ddolen sydd wedi cael ei goleuo.

Sut alla i fireinio fy chwiliad?

Cewch fireinio eich chwiliad trwy ychwanegu termau chwilio i'ch chwiliad yn y blwch chwilio. 

Cofiwch y gallwch chi ddefnyddio seren fel nod chwilio (gweler 'Sut alla i chwilio'r Bywgraffiadur?' uchod), yn ogystal ag ychwanegu rhagor o dermau chwilio.

Sut alla i bori'r Bywgraffiadur?

Cewch bori pob erthygl ar y safle trwy ddefnyddio'r rhestr A-Z o erthyglau. Gellir darganfod hon mewn tair man:

  • trwy glicio ar 'Pori' ar ben unrhyw dudalen
  • o dan 'Rhestr Enwau' yng nghanol y dudalen Cartref

Cliciwch ar lythyren i weld rhestr o erthyglau ar gyfer enwau a ffugenwau personol sy'n cychwyn gyda'r llythyren honno, ac yna cliciwch ar yr enwau sy'n cael eu goleuo er mwyn agor erthyglau unigol.

Am resymau technegol, rhestrir erthyglau yn ôl trefn yr wyddor Saesneg yn hytrach na threfn yr wyddor Gymraeg.

Sut mae erthyglau'n cael eu harddangos?

I weld erthygl, cliciwch ar y ddolen sy'n cael ei goleuo.

Pan agorwch chi erthygl, trefnir y wybodaeth ynddi fel a ganlyn:

  • pennawd sy'n dangos enw, dyddiadau a swyddogaeth/au'r person
  • blwch crynodeb sy'n rhoi manylion pellach, yn cynnwys perthnasau teuluol, awdur yr erthygl, ac ati
  • prif destun yr erthygl, yn cynnwys disgrifiad bywgraffyddol, gyda dolenni clicadwy, wedi'u goleuo, i bobl perthynol yn y Bywgraffiadur
  • enw Awdur yr erthygl
  • rhestr o'r Ffynonellau a ddefnyddiwyd yn yr erthygl – os crewyd y rhain ar ôl dyddiad yr erthygl wreiddiol, mae hyn yn ganlyniad i benderfyniad golygyddol i ychwanegu cyfeiriadau at weithiau perthnasol a gyhoeddwyd yn ddiweddarach, yn ogystâl â ffynonellau pwysig na chymeradwywyd yn wreiddiol gan yr awdur.
  • gwybodaeth am Ddarllen Pellach, Dolenni Ychwanegol, Delweddau, ac ati, sy'n cynnwys deunydd perthynol mewn fformatiau amryw o gatalog LlGC a ffynonellau allanol ar y we
  • Dyddiad cyhoeddi'r erthygl
  • dolen i wybodaeth am Hawlfraint Erthygl

Lle mae erthygl wedi cael ei chywiro, gellir gweld y cywiriadau trwy glicio ar y botwm 'Cywiriadau' ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith.

Lle mae cynnwys erthygl wedi cael ei ddiwygio'n sylweddol ar ôl cyhoeddi, dangosir 'Erthygl a archifwyd', fel bod modd gweld y fersiwn wreiddiol a'r fersiwn ddiwygiedig ochr yn ochr â'i gilydd.

Sut alla i argraffu erthygl?

I argraffu erthygl, cliciwch ar y botwm 'Argraffu' sy'n ymddangos ar yr ochr dde ar ben ac ar waelod y dudalen fel ei gilydd, a dilyn y cyfarwyddiadau i argraffu.

Sut alla i gyfeirnodi erthygl?

I gyfeirnodi erthygl (e.e. ar gyfer ymchwil a chyhoeddiadau ysgolheigaidd), agorwch yr erthygl a chliciwch ar y botwm 'Cyfeirnodi' sy'n ymddangos ar yr ochr dde ar ben ac ar waelod y dudalen fel ei gilydd. Bydd hwn yn agor pop-yp gyda chyfeiriad swyddogol y gellir ei lawrlwytho. I safio'r cyfeiriad, cliciwch ar y botwm 'Copïo i'r clipfwrdd', ac yna pastiwch y cyfeiriad i mewn i ddogfen ar eich peiriant eich hun yn y modd arferol (e.e. pastio i ddogfen Word gan ddefnyddio CTRL+V).

Pwy biau hawlfraint yn y Bywgraffiadur?

Amddiffynnir pob elfen data yn y Bywgraffiadur gan hawlfraint, yn cynnwys yr erthyglau bywgraffyddol a phob agwedd o'r wefan ei hun. Mae hawlfraint yn caniatau defnyddio data o'r safle mewn rhai ffyrdd, ond bydd angen caniatâd deiliaid hawlfraint i ddefnyddio'r data mewn ffyrdd eraill. Mae deiliaid hawlfraint ar safle'r Bywgraffiadur yn cynnwys awduron yr erthyglau, eu hetifeddion a'u haseinïaid cyfreithiol, Llyfrgell Genedlaethhaol Cymru, a Chymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion. Ewch i'r dudalen Hawlfraint am fwy o wybodaeth. 

Pam na alla i ddarganfod y person 'rydw i'n chwilio amdano/i?

Os na allwch chi ddarganfod person arbennig, mae hi'n werth ystyried y canlynol:

Sut alla i weld yr erthyglau mwyaf diweddar? 

Am resymau diogelwch seibr mae gwefan y Bywgraffiadur bellach yn statig. Gellir cyrchu'r erthyglau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi o hyd. Bydd erthyglau newydd yn cael eu cyhoeddi dros dro ar safle’r Bywgraffiadur ar wefan Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. 

Sut alla i awgrymu cywiriadau neu ychwanegiadau at erthyglau, neu adrodd camgymeriadau ffeithiol?

Cysylltwch â ni i adael i ni wybod am gywiriadau, ychwanegiadau neu gamgymeriadau.

Sut alla i enwebu person fel testun erthygl fywgraffyddol?

A yw'r person ar y rhestr o erthyglau sydd angen eu creu?

Cysylltwch â ni i enwebu person fel testun erthygl.

Sut alla i ddarganfod y canllawiau ar gyfer awduron erthyglau?

Mae'r Canllawiau i Awduron yn cynnwys manylion o'r anghenion sylfaenol ar gyfer pob erthygl.

Sut alla i awgrymu awdur ar gyfer erthygl?

A yw'r person ar y rhestr o erthyglau sydd angen eu creu?

Cysylltwch â ni i awgrymu awdur ar gyfer erthygl.

Sut alla i ddarganfod mwy am y Bywgraffiadur?

I ddarganfod mwy am y Bywgraffiadur, yn cynnwys cefndir y prosiect a'r math o wybodaeth y cewch ddisgwyl ei chael yn yr erthyglau bywgraffyddol, ewch i'r dudalen ‘Mwy am y Prosiect’.

Ble alla i ddarganfod rhestr o aelodau'r Bwrdd Ymgynghorol?

Ewch i dudalen y Bwrdd Ymgynghorol i  weld rhestr o'r aelodau presennol.

Sut alla i ddarganfod noddwyr y prosiect?

Mae'r pedwar sefydliad sydd yn noddi'r prosiect yn cynnwys:

Sut alla i ddarganfod polisi'r wefan ar gyfer preifatrwydd a chwcis?

Daw preifatrwydd a chwcis ar y safle hon o dan bolisïau perthnasol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Sut alla i gysylltu â'r Bywgraffiadur?

Os nad yw'r dudalen Cymorth hon yn ateb eich ymholiad, cysylltwch â ni.