Ar ddydd Mercher 19 Mawrth 2025, cafodd disgyblion Ysgol Bro Hyddgen y profiad arbennig o weld y paentiad Ovis Alarmed (1973) gan Tony Steele-Morgan yn dod i’w dosbarth.
Deilliodd y cyfle unigryw hwn yn wreiddiol wrth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gymryd rhan yn ‘Campweithiau mewn Ysgolion’ – cynllun gan Art UK i ddod â phlant wyneb yn wyneb â gweithiau celf gwych y tu mewn i’w hystafell ddosbarth, gan chwalu rhwystrau traddodiadol i gelf.
Darllen mwy.
Categori: Newyddion