Symud i'r prif gynnwys
Tudalen flaen anerchiad etholiadol a draddodwyd gan Lewis Valentine, 1929

Ysgrifennwyd gan Rob Phillips

2 Awst 2025

Fel rhan o weithgareddau’r Archif Wleidyddol Gymreig i nodi canmlwyddiant sefydlu Plaid Cymru, mae adnodd newydd, sy'n tynnu sylw at wahanol gerrig milltir yn hanes y blaid, wedi'i lansio ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ffurf llinell amser.

Cafodd nifer fawr o ddogfennau yng nghasgliadau'r Llyfrgell eu digido ac maent bellach ar gael trwy linell amser Plaid Cymru 100 ac ar gatalog y Llyfrgell.

Mae'r eitemau digideiddiedig yn cynnwys:


•    Y llyfrau cofnodion cynharaf
•    Ffeiliau o ddeunydd ymgyrch etholiadol
•    Maniffestoau
•    Cyhoeddiadau polisi
•    Areithiau
•    Ffotograffau
 

Mae'r llinell amser nawr ar gael ar ein gwefan.
 

Categori: Newyddion