Mae'r gwyliau wedi cyrraedd ac rydyn ni'n edrych ymlaen at haf o hwyl yn y Llyfrgell.
Mae’n ardal chwarae boblogaidd, sy'n ddelfrydol ar gyfer plant 3-7 oed, gyda phob math o deganau a gweithgareddau i danio dychymyg plentyn, ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau i deuluoedd hefyd yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell dros yr Haf, a bydd sawl gweithgaredd hwyl i deuluoedd yn Archif Ddarlledu Cymru.
Os taw celf a diwylliant sy’n mynd a’ch bryd, beth am ymweld â’n harddangosfa Dim Celf Gymreig yn Oriel Gregynog. Gyda’n llyfr gweithgareddau hwyl i blant, gall y teulu i gyd fwynhau dros 250 o weithiau sy’n dweud hanes celf yng Nghymru. Mae hefyd rhaglen o ddigwyddiadau Haf Dim Celf Gymreig yn cymryd lle trwy mis Awst a dechrau Medi. Mae'n cynnwys teithiau tywys o dan ofal curadur yr arddangosfa, Peter Lord (12/08, 20/08 (taith sain-ddisgrifiad), 03/09).
Pam na hefyd cymryd y cyfle i weld yr arddangosfa ffotograffiaeth Byd Bach Aber a hefyd manteisio ar y cyfle prin hwn i weld Beiblau personol Harri'r VIII a Thomas Cromwell wedi dod at ei gilydd. Cofiwch bod caffi Pendinas ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn yn gweini diodydd poeth ac oer, cacennau blasus ac amrywiaeth o opsiynau cinio, ynghyd â Siop y Llyfrgell os ydych yn edrych am anrheg neu rhywbeth i'ch hun.
I archebu tocyn ewch i digwyddiadau.llyfrgell.cymru.
Categori: Newyddion
