Ers yr 1980au mae’r hanesydd celf a churadur yr arddangosfa, Peter Lord, wedi bod yn archwilio'r myth bod 'dim celf Gymreig' gan ddarganfod a chofnodi hanes celf ac artistiaid Cymreig. Ar Ddydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024, bydd arddangosfa newydd yn agor yn Oriel Gregynog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fydd yn cyfuno ei gasgliad helaeth ag eitemau o’r Casgliad Celf Genedlaethol yn y Llyfrgell am y tro cyntaf er mwyn adrodd y stori bwysig hon.
Datganiad i'r wasg: Does ‘Dim Celf Gymreig’ – Arddangosfa newydd yn herio’r myth
Categori: Newyddion