Symud i'r prif gynnwys
Siaradwyr Carto-Cymru

Ysgrifennwyd gan Ellie King, Assistant Map Curator

7 Gorffennaf 2025

‘Celfyddyd Mapiau’ oedd ein thema ar gyfer 9fed symposiwm blynyddol Carto-Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Gwener 16 Mai, a oedd yn edrych ar sut mae’r ffiniau rhwng mapiau a chelf yn aneglur, a sut y gall ymatebion artistig fwrw goleuni ar fapiau.  

Fe groesawon ni 99 o wylwyr ar-lein a oedd yn ymuno â thua 60 o bobl oedd yn bresennol yn Aberystwyth. Traddodwyd dwy o’r sgyrsiau yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd ar gael.

Unwaith eto, buom yn gweithio mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), ac roeddem yn falch iawn o gael ein noddi gan Gymdeithas Cartograffeg Prydain (BCS) a Chymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru (CASW).

Fe wnaeth Huw Thomas a minnau guradu arddangosfa dros dro i gyd-fynd â'r digwyddiad, gan ddangos rhai o'n mapiau mwyaf trawiadol o safbwynt gweledol: Arolwg Crughywel a Thretŵr, Wonderground Map of London Town gan MacDonald Gill, mapiau cartŵn gan Hugh Hughes a Lilian Lancaster, Ewrop fel cŵn rhyfel, ac amrywiaeth o gloriau addurniadol yr Arolwg Ordnans. 

Nodiadau-maes ar gyfer ail-ddyfeisio Cymru

‘Perhaps there is no return for anyone to their native land, only field-notes for its re-invention'  James T. Clifford

Yr artist Iwan Bala a roddodd sgwrs gynta’r dydd gyda thaith drwy ei ddehongliad artistig o fapiau. Mae Iwan yn disgrifio ei weithiau celf ei hun fel nodiadau-maes ar gyfer dehongli ac ail-ddehongli pethau sydd 'yn syml yn ddisgwyliedig'. Mae ei ddelweddu cartograffig o Gymru yn tynnu ar ddylanwadau byd-eang: gwaith yr hanesydd o'r Unol Daleithiau James T Clifford; y bardd o Gymru, Menna Elfyn a gwaith yr artist o Chile, Alfredo Jaar Logo for America. Mae mapiau o Gymru yn treiddio drwy waith Iwan, o ben y baedd yn Mabinogi-dir, i Gymru wedi'i gosod dros gyrion Celtaidd Ewrop gyda Phen Llŷn wedi'i uno â Llydaw, a de Cymru â Gwlad y Basg.  

"Dw i'n gweld yn aml iawn ffurf Cymru, a dw i'n gweld e ym mhobman, mewn rhyw staen ar y wal... Roedd yn mynd i ryw habit i fi greu'r mapiau, siapiau 'ma o Gymru... Cartograffiaeth o Gymru'n rhan o bob peth am Gymru, yr hanes, y beirdd, y caneuon, y chwedloniaeth, maen nhw i gyd ynghlwm yn y dirwedd" 

Delwedd barhaol ganddo yw Cymru ar ffurf menyw. Cysylltodd Iwan ei weithiau ar siâp Cymru gyda hanes hir o bersonoli’r wlad fel menyw, ac yn enwedig â mapiau cartŵn Hugh Hughes o Gymru fel ‘Y Fonesig Venedotia’ yn y 1840au. Mae delwedd adnabyddus yn dangos y Fonesig yn taflu awduron y 'llyfrau gleision' enwog i Fae Ceredigion. Roedd y llyfrau hyn yn cynnwys adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru yn y 1840au. Roedd y Llyfrau Gleision yn amhoblogaidd iawn yng Nghymru oherwydd eu sylwadau am yr iaith Gymraeg, moesau pobl Cymru, ac anghydffurfiaeth. Arweiniodd y Llyfrau Gleision at y gred mai'r unig ffordd i bobl oedd yn siarad Cymraeg wella eu sefyllfa oedd drwy ddysgu Saesneg. Cafodd hyn effaith ddinistriol ar y niferoedd a siaradai Gymraeg sy'n dal i gael ei theimlo heddiw. O ganlyniad, daethpwyd i adnabod yr adroddiad fel 'Brad y Llyfrau Gleision'. 

Y famwlad / corff nid llais

Yn ysbryd ailddyfeisio ac ailddychmygu celfyddyd Gymreig, ein hail siaradwr oedd Esyllt Angharad Lewis. Mae Esyllt yn artist ac yn awdures damegion, yn chwarae gyda chyfieithu fel cyfrwng esthetig.  

Disgrifiodd Esyllt waith mapiau grŵp celf Beca (yr oedd Iwan Bala yn aelod amlwg ohono) fel un a oedd yn y bôn yn gwneud sylwadau ar wladychiaeth a gwladychiad Cymru gan y Prydeinwyr/Saeson dros ddegawdau a chanrifoedd, “yn llythrennol yn creithio a difwyno ei thir.”

Mae Cymru yn cael ei gwneud yn wrthrych trwy fapiau grŵp Beca. Mae Esyllt yn gofyn pa wrthrych?  

Menyw. 

Tynnodd Esyllt sylw at densiwn rhwng gwahanol ddehongliadau o waith grŵp Beca: a yw personoli Cymru fel menyw yn siarad am ddioddefaint menywod yn ogystal â dioddefaint cenedlaethol? Neu "a yw'r modd y mae menyw yn gweithredu fel gwrthrych chwant / dioddefaint yn atgynhyrchu ac atgyfnerthu'r syniad o'r famwlad hen a gwyrdröedig, ar ei chythlwng?" A yw cartŵn y ffurf fenywaidd yn lleihau dioddefaint menywod i fod yn drosiad am drawmâu eraill? A pham mae cyrff menywod mor bresennol heb eu lleisiau?

Cyflwynodd Esyllt ddau waith fel gwrthbwynt: poster dadleuol 1926 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe gan Evan Walters a Dyffryn Nantlle Llais Nantlle gan Mary Lloyd Jones. Mary yw artist tirluniau benywaidd mwyaf dylanwadol Cymru, ac mae ei gwaith yn cymryd golwg haniaethol ar dirluniau, yn enwedig y dyffrynnoedd sydd wedi’u creithio gan weithfeydd plwm a llechi yng nghanolbarth a gogledd Cymru. 

Tra bo gwaith Mary Lloyd Jones yn mapio amlinelliadau Dyffryn Nantlle gyda lliwiau llachar a marciau bywiog, mae poster Evan Walters ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1926 yn cymryd trosiad ‘Y Fenyw Gymreig’ wylaidd (disgynnydd i’r Fonesig Venodotia, efallai) ac yn ei wyrdroi, gan ddarlunio yn lle hynny fenyw ifanc hyderus a deinamig yn marchogaeth draig. Dim ond un copi o'r poster hwn sydd wedi goroesi, a hynny diolch i noddwr yr artist, y swffragét Winifred Coombe Tennant. Cafodd y gweddill eu difa gan awdurdodau Eisteddfod 1926 am fod yn rhy rywiol. 

Hanes â Chot o Siwgr

Ein trydydd siaradwr gwadd oedd yr artist Jasmine Violet. Mae Jasmine wedi gweithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol ar ein prosiect, Dadgoloneiddio Celf. Yn 2023 comisiynodd LlGC bedwar artist o liw i greu gweithiau celf newydd sy'n ymateb i'n casgliadau. Tyfodd dau o’r prosiectau hyn allan o eitemau sydd o fewn y casgliad mapiau, gyda phwyslais arbennig ar hanesion anodd a dadleuol caethwasiaeth a choloneiddio  

Creodd Jasmine ei gwaith mewn ymateb i’r cysylltiadau rhwng Cymru a Jamaica yn y 18fed ganrif. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gofnodion o blanhigfeydd siwgr a phobl a gafodd eu caethiwo gan Nathaniel Phillips. Fe ddefnyddiodd Phillips y cyfoeth a greodd o’i blanhigfeydd yn y Caribî i brynu ystâd Slebech, bum milltir i’r dwyrain o Hwlffordd. Mae’r cofnodion hyn yn cynnwys map o Pleasant Hill, un o blanhigfeydd Phillips, ynghyd â rhestr o’r bobl wedi eu caethiwo a oedd yn gweithio yno yn y 1760au. 

Yn ei sgwrs, gwnaeth Jasmine y pwynt bod disgwyl i artistiaid o fwyafrif byd-eang ddelio â’r trawma o ddod wyneb yn wyneb ag eitemau trefedigaethol, eitemau treisgar, gan sefydliadau sy'n awyddus i ddadgoloneiddio eu casgliadau. Roedd hi’n awyddus i fynd â’r prosiect i gyfeiriad gwahanol, gan ganolbwyntio ei gweithiau celf ar y llawenydd a gâi yn nhirwedd Cymru – ei hegni, ei chymuned a’r berthynas roedd hi wedi ei chreu â phobl ynddi.

Yn dilyn ei phrosiect gyda LlGC, mae Jasmine wedi cynnal ymyrraeth artistig fel rhan o’r prosiect Safbwyntiau yng Nghastell Penrhyn yng ngogledd Cymru, mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Lechi Cymru a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.  

Roeddem wrth ein bodd mai Carto-Cymru oedd y lleoliad ar gyfer y dangosiad cyntaf o waith newydd Jasmine, y ffilm fer Croen Siwgr.  Mae Jasmine yn datgymalu penddelwau sydd wedi'u creu o siwgr, gan ymgorffori elfennau o ddawns mewn ymateb i’r hanes cudd sydd wedi’i blethu gyda’i gilydd rhwng llechi Cymru a’r fasnach gaethwasiaeth.  

https://amgueddfa.cymru/digwyddiadau/perspectives/safbwyntiau-yn-amgueddfa-lechi-cymru/ 

Tirweddau diwydiannol planhigfeydd siwgr Jamaica

Marian Gwyn oedd yn agor sesiwn y prynhawn, cydymaith ymchwil er anrhydedd y Sefydliad Astudio Ystadau Cymreig ym Mhrifysgol Bangor. Siaradodd am y gwerth oedd i lawysgrifau o fapiau planhigfeydd fel cofnodion gweledol o’r 'croestoriad rhwng tir, ecsbloetio, a rheolaeth'.

Agorodd Marian ei sgwrs drwy ofyn am help: ni fyddai wedi bod yn bosibl iddi gwblhau'r gwaith a gyflwynwyd ganddi yn Carto-Cymru heb fynediad at Archifau Bangor. Mae'r archif mewn perygl o wynebu toriadau dirfodol a cholli degawdau o arbenigedd. Bydd tair swydd archifol yn cael eu colli, gan adael dim ond un swydd ran-amser i reoli archifau a chasgliadau arbennig printiedig a llyfrau prin. Os yw'r casgliadau neu'r staff yn Archifau Bangor wedi helpu eich gwaith mewn unrhyw ffordd, gallwch anfon neges bersonol o gefnogaeth at communications@bangor.ac.uk 

Anogodd Marian y gynulleidfa i feddwl am drefedigaethau ynysoedd y Caribî fel rigiau olew: ni fuont erioed yn hunangynhaliol o ran cynnal eu poblogaeth na darparu adnoddau sylfaenol, ac roeddent yn cyflawni pwrpas hollol echdynnol. Roedd tua 70% o bobl wedi’u caethiwo yn y Caribî yn gweithio ar blanhigfeydd siwgr, sef llofrudd mwyaf pobl wedi’u caethiwo - yn uwch na mwyngloddio a phuteindra gorfodol. 

Ni ellid gwahanu mapiau oddi wrth y fasnach gaethwasiaeth a choloneiddio. Dangosai mapiau Herman Moll lwybrau llyngesau bach o longau trysor o Sbaen (gwybodaeth ddefnyddiol i ‘anturiaethwyr masnachol’), tra oedd llawysgrifau mapiau ystadau yn cynnwys llawer o fanylion am economeg planhigfeydd. Ychydig o fanylion y tu hwnt i'r arfordiroedd a welir ar fapiau cyhoeddedig y cyfnod, nid oherwydd nad oedd Ewropeaid wedi gwladychu yno nac oherwydd eu diffyg gwybodaeth, ond oherwydd bod y tir wedi'i fritho â phlanhigfeydd yr ystyriwyd bod eu manylion yn sensitif yn fasnachol. Felly mae llawysgrifau o fapiau planhigfeydd yn rhoi un o'r ychydig ffynonellau sy'n ein helpu i ddeall y dirwedd y tu hwnt i'r arfordir. Yn ddiddorol, nododd Marian ei bod yn brin iawn dod o hyd i fapiau ystadau Jamaica sy'n dangos unrhyw fath o dirwedd. I lenwi'r bwlch hwn, edrychodd ar bortreadau o  blanhigfeydd a oedd yn perthyn i ystadau yn y DU. Er eu bod heb os wedi'u glanhau o’r gwir, maent yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni o’r dirwedd. Mewn un enghraifft, mae'r 'tŷ mawr' a ddefnyddir gan y goruchwylwyr gwyn yn ymddangos ar y map yn agos iawn at yr ardal ddiwydiannol ble y cynhyrchwyd siwgr. Fodd bynnag, o'r portread gallwn weld ei fod mewn gwirionedd ar ben bryn, yn edrych dros yr ardal waith islaw, sy'n rhoi dealltwriaeth wahanol iawn o'r deinameg pŵer sy'n cael ei mynegi yn y dirwedd.

Gan adeiladu ar waith Jasmine, nododd Marian Gwyn gysylltiad arall rhwng Jamaica a theulu Pennant o Gastell Penrhyn. Roedd chwarel lechi'r Penrhyn yn un o'r rhai cyntaf i fabwysiadu arferion diwydiannol, gan ganiatáu iddi dyfu'n llawer cyflymach na'i chystadleuwyr. Mae Marian yn awgrymu bod y profiad helaeth hwn o greu tirweddau diwydiannol ar blanhigfeydd siwgr Jamaica wedi'i drawsblannu'n llwyddiannus i ogledd Cymru. Mae hi'n dadlau bod nodweddion diwydiannu — gwahanu sgiliau, crynodiad llafur, a gwahanu perchnogion oddi wrth y tir — yn bresennol yn Jamaica o ddiwedd y 1600au, ymhell cyn y broses yn y DU. 

Mwy na chyfarwyddiadau yn unig 

Yr artist Mfikela Jean Samuel oedd yn cloi’r diwrnod. Creodd Mfikela un arall o'r gweithiau celf a gomisiynwyd fel rhan o'r prosiect Dadgoloneiddio Celf, a bu’n siarad am ei daith drwy'r prosiect i ddeall mapiau fel mwy na ffordd o fynd o A i B. Ar y mapiau o Affrica a welodd drwy'r prosiect, dywedodd: "Pan fyddwch chi'n gweld rheilffordd ar fap, nid llinell yn unig yw hi. Mae'n golygu symudiad pobl ac adnoddau. Mae yno am ei bod yn gwasanaethu'r meistri trefedigaethol". Ar fap Swyddfa Wybodaeth Ganolog Gorllewin Affrica a ddefnyddiodd Mfikela fel rhan o'r prosiect, mae ymyl addurniadol gyda ffigurau a golygfeydd o dirwedd. Yr unig ffigwr gydag enw, yr unig ffigwr sydd ag wyneb hyd yn oed, yw'r fforiwr Mungo Park. Mae’r Affricaniaid yn ymddangos fel addurn yn unig, fel tyrfa heb wynebau, pob un yn union yr un fath â'r llall. Mae wyneb Mungo Park hefyd yn ymddangos yng ngwaith Mfikela Agor y ddeialog, ond wedi'i dorri a'i newid. Roedd Mfikela yn disgrifio hanfod celf fel rhywbeth sy’n  cynrychioli'r byd nid yn unig fel y mae, ond fel rydych chi eisiau iddo fod. Mae hon yn ddadl y gellid ei defnyddio hefyd am fapiau, marcio llinellau i drefnu a meddiannu'r dirwedd. 

Mae cydnabod y gelfyddyd sydd yn y mapiau yn rhoi'r allwedd i ni i dirwedd weledol gyfoethog, ac fe orffennodd Mfikela ei sgwrs gyda dadl angerddol dros greadigrwydd fel modd o greu newid, i ddychmygu bydoedd newydd:

"Nid yw cynnydd dynoliaeth yn anochel; mae'n gofyn am weithredu gan unigolion... Os ydych chi'n gadael yma heddiw yr un person ag oeddech chi, dewis ydy hynny. Mae hwn yn wahoddiad i ddod yn artist."

 

Mae Ar gyfer Cymru Gweler Lloegr gan Iwan Bala a Thomas Pennant gan Mfikela Jean Samuel yn cael eu harddangos yn arddangosfa Dim Celf Gymreig? yn LlGC tan 6 Medi. Mae gan LlGC gasgliad sylweddol o weithiau gan grŵp celf Beca, llawer ohonynt yn gaffaeliadau newydd.

Mae’r gweithiau a gynhyrchwyd gan Jasmine Violet a Mfikela Jean Samuel ar gyfer y prosiect Dadgoloneiddio Celf yn cael eu harddangos am gyfnod byr yn Ystafell Peniarth LlGC. Ariannwyd y comisiynau gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Mae cipolwg o Croen Siwgr gan Jasmine Violet ar gael ar ei chyfrif Instagram yma: https://www.instagram.com/reel/DJjMRlEuAKh/ 

Gweithiau celf wedi'u digido gan y Llyfrgell Genedlaethol:

Gorchudd gwraig / Menyw Geltaidd / Map Cymru 1986 gan Paul Davies

Dyffryn Nantlle Llais Nantlle gan Mary Lloyd Jones