Symud i'r prif gynnwys
Nodi 60 mlynedd ers boddi Tryweryn drwy arddangosfa gelf a ffotograffiaeth

17 Medi 2025

Ar Ddydd Sadwrn 13 Medi 2025 agorodd arddangosfa newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n cofnodi chwe deg mlynedd ers boddi Cwm Tryweryn i greu cronfa ddŵr i Lerpwl.

Yn arddangosfa TRYWERYN 60 mae casgliad o ddelweddau pwerus ac ymatebion artistig i’r foment drychinebus hon yn hanes y genedl.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys ffotograffau trawiadol y ffotograffydd a’r newyddiadurwr Geoff Charles, a ddogfennodd y protestiadau yn erbyn y boddi, dyddiau olaf y gymuned ac effaith y golled. 

Darllenwch y datganiad yn ei gyfanrwydd

Categori: Newyddion