Symud i'r prif gynnwys
Coleg Ceredigion students at the Library

16 Mehefin 2025

Roedd yr wythnos ddiwethaf yn amser i ddathlu wrth i waith gwirfoddol y Llyfrgell ar brosiect digido Deiseb Heddwch Menywod Cymru gael ‘canmoliaeth uchel’ yng Ngwobrau Gwirfoddoli Archifau ARA (Archives and Records Association).

Dywedodd Bethan Rees, Rheolwr Rhaglen Ddigidol Llyfrgell Genedlaeythol Cymru:
“Mae'n anrhydedd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru dderbyn canmoliaeth uchel gan feirniaid Gwobr Gwirfoddoli Archifau ARA 2025 am y gwaith rhyfeddol a wnaed gan ein gwirfoddolwyr wrth drawsgrifio'r enwau a chyfeiriadau ar Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru. Ni fyddai'r gamp hon wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr.  

Nid yn unig mae eu gwaith wedi gadael gwaddol parhaol, ond mae hefyd wedi adeiladu pont rhwng y gorffennol a'r presennol, gan ein hatgoffa bod stori y tu ôl i bob enw sy'n haeddu cael ei chofio.”

Gallwch ddarllen y feirniadaeth yma

Darllen datganiad y wasg

Categori: Newyddion