Symud i'r prif gynnwys

Statws Cydymffurfiaeth

Mae'r dudalen hon yn rhestri materion heb eu datrys, a dyddiadau adfer disgwyliedig.

Beth gallwch ddisgwyl

Dylech ddisgwyl gallu gwneud pethau fel:

  • Neidio yn uniongyrchol at gynnwys.
  • Chwyddo'r cynnwys i o leiaf 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin.
  • Llywio y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd.
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin.

Rydym yn gweithio at gyrraedd a chynnal Safon AA ar gyfer ein gweannau i gyd. Rydym yn anelu am Safon AAA lle mae modd.

Prif wefan - www.llyfrgell.cymru

Lansiwyd ein gwefan newydd yn Hydref 2022. Datblygwyd y wefan i safon WCAG 2.1 AAA (A Driphlyg)

Mae dau mater yn hysbys:

  1. Mae nifer o ddogfennau PDF a Word yn methu safonau hygyrchedd. Ymysg y problemau yw diffyg teitlau (maen prawf llwyddiant 2.4.2 Teitl Tudalen), diffyg tagiau iaith (maen prawf llwyddiant 3.1.1 Iaith y Dudalen), tablau heb eu marcio'n gywir (maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Chysylltiadau), a delweddau heb destun amgen (maen prawf llwyddiant 1.1.1 Cynnwys Nad Sy'n Destun). Mae'r problemau yma yn effeithio defnyddwyr darllenydd sgrin. Rydym yn gweithio i drwsio dogfennau nad sy'n cydymffurfio a gobeithiwn bydd y gwaith yma'n parhau drwy gydol 2024.
  2. Rydyn ni'n dal i fod ag ambell i problem cyferbyniad lliw ynysig ar lefelau gwylio penodol, er enghraifft y testun a'r ddelwedd yn y blwch "Diogelu Cof y Genedl" ar waelod y tudalen yma, ac eraill. Mae hyn yn effeithio defnyddwyr ag amhariad ar y golwg. Mae'n methu maen prawf llwyddiant 1.4.3 (Isafbwynt Cyferbyniad).  Byddwn yn gweithio i'w ddatrys erbyn canol 2024 

Clip Cymru - clip.llyfrgell.cymru

Datblygwyd y wefan hon gan drydydd parti i o leiaf safon WCAG 2.1 AA, AAA ble roedd modd.

Mae dau fater a fydd yn cael eu hadfer yn ystod Mai 2024:

  1. Nid oes testun amgen na rôl addurniadol gan y ddelwedd fawr ddu a gwyn. Mae hyn yn effeithio pobl ag amhariad ar y golwg. Mae'n methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 (Cynnwys Nad Sy'n Destun). 
  2. Mae rôlau anghywir gan y botymau nesaf/blaenorol ar y tri carwsél. Mae hyn yn effeithio pobl ag amhariad ar y golwg. Mae'n methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth). 

Meddalwedd Trydydd Parti

Mae'r Llyfrgell yn defnyddio rhai systemau trydydd parti i gyflenwi ffwythiannau a gwasanaethau.

Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau fod ein gweithrediadau yn cydymffurfio â hygyrchedd. Fodd bynnag, nid ydym ar hyn o bryd yn medru gwarantu cydymffurfiaeth WCAG 2.1 AA oherwydd ein bod, yn y rhan fwyaf o achosion, yn ddibynnol ar y trydydd parti i sicrhau cydymffurfiaeth.

Nid oes rheidrwydd ar bob trydydd parti i gyhoeddi eu datganiadau eu hunain.

Enw

Rôl

Dolen i Ddatganiad/Cynllun Hygyrchedd

Nodiadau

AtoM

Catalog Archif

Amherthnasol

Cydymffurfiaeth AA heblaw am faterion cyferbynaid lliw; gwaith parhaus.

PayPal

Taliadau Arlein

Crynodeb Hygyrchedd (ar gael yn Saesneg yn unig)

Cydymffurfiaeth uchel; gwaith parhaus

Primo

Catalog Adnoddau

Datganiad Hygyrchedd

Cydymffurfiaeth uchel. Mân faterion yn ymwneud â rolau ARIA a chyferbyniad lliw; gwaith parhaus.

Lib Answers

Cymorth

Datganiad Hygyrchedd (ar gael yn Saesneg yn unig)

Cydymffurfiaeth uchel iawn; gwaith parhaus

Shopify

Siop arlein

Datganiad Hygyrchdd (ar gael yn Saesneg yn unig)

Cydymffurfiaeth uchel iawn, gwaith parhaus

TicketSource

Archebu digwyddiadau

Amherthnasol

Cydymffurfiaeth uchel iawn; Materion gyda llywio yn y dudalen a chyferbyniad lliw.

Tiki-Toki

Llafur100 llinell amser ymgorfforedig

Amherthnasol

Materion hygyrchedd sylweddol. Gwaith parhaus i ddarganfod datrysiad amgen. Mae fersiwn hygyrch o'r cynnwys ar gael ar gais.

Transpay

Taliadau arlein

Amherthnasol

Dim dogfennaeth ar gael

Syllwr Cyffredinol

Arddangos adnodd digidol

Datganiad Hygyrchedd (ar gael yn Saesneg yn unig)

Cydymffurfiaeth uchel iawn. Rhai materion gyda llywio yn y dudalenac animeiddiad symudiad, a nifer bychan o faterion cyferbyniad lliw; gwaith parhaus

WorldPay

Taliadau arlein

 

Rhai problemau gyda labeli ffurflenni

Wordpress

Blogio

Cynllun Hygyrchedd (ar gael yn Saesneg yn unig)

Cydymffurfiaeth AA heblaw am faterion cyferbyniad lliw, a dim teitl priodol ar y mynegai (tudalen flaen).


Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 25/10/2020.

Adolygwyd a diweddarwyd y datganiad ar 15/05/2024.

Cynhelir profion rheolaidd yn fewnol gan ddefnyddio axe DevTools a Wave, gyda'r WCAG Colour Contrast Checker.
Mae'r profi yn awtomataidd ac â llaw.

Profwyd y gwefannau hyn ddiwethaf yn yr wythnos yn gorffen 15/05/2024.