Symud i'r prif gynnwys

Mae eiddo deallusol – yn cynnwys hawlfraint, dyluniadau, nodau masnach a phatentau – yn faes pwysig i fusnesau ac i ddatblygiad economaidd yn gyffredinol. Mae hefyd yn berthnasol i sawl agwedd o waith y Llyfrgell ac, er na fedr gynnig cyngor cyfreithiol, yr ydym awyddus i godi ymwybyddiaeth o eiddo deallusol yng Nghymru.

Ceir Canolfan Estyn Allan PATLIB yn Aberystwyth sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol ac Ardal Y Bont (Swyddfa Llywodraeth Cymru). Mae’r ganolfan hon yn cynnig:

  • Gwasanaeth ymholiadau am ddim;
  • Mynediad i’r cronfeydd data eiddo deallusol sydd am ddim ar y We;
  • Llenyddiaeth ar wahanol agweddau o Eiddo Deallusol;
  • Arweiniad ar chwilio am batent I’r rhai hynny sy’n ansicr ble i ddechrau (yn dibynnu ar argaeledd staff).

Mae’r Ganolfan hefyd wedi cynnal clinigau gydag arbenigwyr ac os hoffech i ni eich rhoi mewn cysylltiad ag unigolyn sy’n arbenigo yn y maes, cysylltwch â ni trwy lenwi’r Ffurflen Ymholiadau Arlein.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan PATLIB UK

Mae’r model wedi’i fabwysiadu mewn rhannau eraill o Ewrop hefyd.

Ceir rhagor o wybodaeth am eiddo deallusol hefyd ar wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol.