Symud i'r prif gynnwys

Yng ngwanwyn 2022, cyhoeddwyd ffrwyth llafur oes Daniel Huws ar y llawysgrifau Cymreig, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800–c.1800, gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Mae cyfrol gyntaf y Repertory yn cynnwys disgrifiadau cryno o tua 3,300 o lawysgrifau Cymreig a luniwyd rhwng c.800 a c.1800, y rhai a ysgrifennwyd yn Gymraeg a’r rhai a ysgrifennwyd mewn ieithoedd eraill sy’n ymwneud â llenyddiaeth a dysg Gymreig. Yng nghyfrol II, ceir gwybodaeth fywgraffyddol am tua 1,500 o ysgrifwyr, gan gynnwys rhai anhysbys y mae eu llaw yn digwydd mewn dwy neu fwy o lawysgrifau, ynghyd â mynegeion cynhwysfawr (tua 250tt.) i enwau priod, enwau lleoedd, pynciau a thestunau yng nghyfrol I, a mynegai cronolegol o’r llawysgrifau hyd 1580. Yng nghyfrol III, ceir rhyw 900 delwedd sy’n cynnig enghreifftiau o amrywiol lawiau’r 600 ysgrifwr pwysicaf yng nghyfrol II. Am ragor o wybodaeth, ynghyd â thudalennau enghreifftiol o bob cyfrol, lawrlwythwch gopi o brosbectws y Repertory.

Os oes gennych unrhyw ymholiad neu os hoffech dderbyn copi caled o’r prosbectws, cysylltwch â repertory(at)llyfrgell.cymru.

"Heb unrhyw amheuaeth, y Repertory yw’r cyfraniad pwysicaf ym maes llawysgrifau Cymreig ers gwell na chanrif. Bydd y gwaith awdurdodol, anhepgor hwn yn gweddnewid pob agwedd ar ymchwil i’r traddodiad ysgrifenedig yng Nghymru."

Dr Ceridwen Lloyd-Morgan

Cyn-Bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru