Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ganwyd yr awdur a’r hanesydd Jane Williams yn Llundain. Treuliodd cyfnod o’i bywyd yn Aberhonddu, ac o ganlyniad, datblygodd cyfeillgarwch rhyngddi hi a’r noddwr diwylliannol enwog Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer. Wedi hynny, magodd Jane Williams ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a dysgodd yr iaith. Ysgrifennodd nifer o gyfrolau pwysig, er fe gyhoeddwyd ‘Artegall or, Remarks on the Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales’ fel pamffled dienw. Archwilio dibynadwyedd y tystion a ddefnyddiwyd i lunio adroddiadau 1847 a wna Williams yn y pamffled. Anghymeradwya’r cyffredinoli a waned gan y dirprwyon yn y Llyfrau Gleision, gan brofi parodrwydd rhai Anglicanwyr i amddiffyn y Cymry rhag sylwadau’r dirprwywyr.