Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Awdur ac anturiaethwr oedd Robert Scourfield Mills, a adnabuwyd hefyd fel Owen Rhoscomyl neu Arthur Owen Vaughan. Dihangodd i’r môr fel bachgen ifanc gan weithio mewn sawl gwlad. Pan ddychwelodd Rhoscomyl i Gymru ymddiddorodd yn haens y wlad ac ysgrifennodd y gyfrol ‘Flame-bearers of Welsh History’; defnyddwyd y gyfrol fel gwerslyfr mewn ysgolion. Serch hynny, ni dderbyniodd y gyfrol gymeradwyaeth haneswyr academig oherwydd ei bod yn fwriadol ymfflamychu ymdeimlad o genedlaetholdeb. Roedd hyn yn anarferol i awdur Eingl-Gymreig yn y cyd-destun hwn. Nod Rhoscomyl oedd goresgyn y rhagfarn yn erbyn hanes Cymru, a gwnaeth hynny drwy bwysleisio digwyddiadau hanesyddol mwyaf dramatig ac anrhydeddus y genedl, o’r cyfnod cynharaf i Frwydr Bosworth yn 1485.