Symud i'r prif gynnwys


Cofir am Ann Griffiths fel bardd a lluniwr emynau. Mae ei chyfansoddiadau’n garreg filltiroedd pwysig yn hanes llenyddiaeth menywod Cymru. Yn y gyfrol hon ceir cofnod o’i gwaith cynharaf. Roedd Griffiths yn aelod ymroddgar o’r Gymdeithas Fethodistaidd a cheir cofnod o’i phrofiadau ysbrydol yn ei hemynau. Fel rhan o’r gred Fethodistaidd, anogwyd aelodau i ddatblygu perthynas personol â Duw a thrafodwyd y profiad hwnnw yn y seiat. Fe ysbrydolwyd Ann Griffiths gan ieithwedd ddwys y seiat, ynghyd a barddoniaeth werinol. Rhaid cofio mai cyfansoddwraig lafar ydoedd ac ni luniwyd ei hemynau ar gyfer dibenion cynulleidfaol. Er hynny, dysgodd ei morwyn, Ruth, ei gwaith ar gof a’u hadrodd yn y pendraw i’w gŵr - a’r pregethwr nodedig John Hughes. Cofnododd yntau gweithiau Ann Griffiths. Golygwyd ‘Casgliad o Hymnau’ gan Thomas Charles o’r Bala.