Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol yn ystod yr wythnosau nesaf. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yn ystod y ddeunawfed ganrif, a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, argraffwyd baledi ar raddfa eang iawn gan y gweisg newydd yng Nghymru. Fe’i gwerthwyd i’r cyhoedd yn aml mewn ffeiri a marchnadoedd, lle y canwyd hwy gan eu gwerthwyr. Roedd cynnwys y faled Gymreig yn medru amrywio. Ymdriniodd rhai â negeseuon crefyddol a moesol; adroddodd eraill newyddion cyfoes, megis troseddau lleol a chenedlaethol, terfysgoedd neu ddamweiniau diwydiannol; bu hanesion a chwedloniaeth yn destunau poblogaidd ar gyfer baledi hefyd. Chwaraeodd y faled rhan flaenllaw ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd baledi’n cael eu hargraffu ledled Cymru: mewn 96 o drefi a phentrefi. Prynwyd hwy yn eu miloedd, yn aml iawn gan haenau is y gymdeithas. Denwyd a recriwtiwyd darllenwyr Cymraeg newydd gan faledi oherwydd natur boblogaidd eu cynnwys. 'Cân o senn iw hên feistr Tobacco' oedd y faled cyntaf i'w gyhoeddi gan wasg swyddogol yng Nghymru. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Isaac Carter yn Nhrefhedyn ym 1718. Trafoda’r faled natur anfoesol tybaco.